Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Gofalwyr Sir Gaerfyrddin

Sir:

Sir Gaerfyrddin

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

03331 211332

E-bost:

carersincarms@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Gofalwyr Sir Gaerfyrddin, sydd wedi ei leoli yng Nghaerfyrddin, yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am aelod o’r teulu, ffrind, neu gymydog. Rydym yn wasanaeth ataliol sy’n cynnig ystod eang o wybodaeth i ofalwyr ar sail unigolyddol, gan eu cynghori ynghylch eu hawliau a’u harwyddbostio i ffynonellau cefnogaeth eraill. Ein nod cyffredinol yw i gysylltu gofalwyr gyda’u cymuned leol, gan sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Rydym yn cefnogi gofalwyr o bob cefndir sydd yn 18 oed ac uwch, yn benodol. Cynigiwn wasanaeth sy’n berson-ganolog i ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin a allai elwa o apwyntiad gydag un o’n Gweithwyr Llesiant a all gynnig ystod eang o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein gwasanaethau yn cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014, gan ein bod ni’n sicrhau fod y gofalwyr rydym yn eu cefnogi yn cael dewis a rheolaeth dros eu hawliau ar gyfer asesiad yn ogystal â’r unigolyn maent yn gofalu amdanynt. Rydym yn canolbwyntio ar lesiant cyffredinol y Gofalwyr ac ar sut y gallwn eu cefnogi’n ymarferol gyda gwasanaethau ataliol. Mae cydgynhyrchu gwirioneddol yn greiddiol i’n holl ddarpariaeth gwasanaeth, ac rydym yn rhagweithiol wrth ddatblygu ymagwedd aml-asiantaethol i’r gefnogaeth rydym yn ei ddarparu.

Atgyfeirio

Gwahoddir gofalwyr sy’n oedolion i gofrestru gyda Gwasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Gofalwyr Sir Gaerfyrddin.

Os hoffech fwy o wybodaeth, yna cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.