Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl

Sir:

Sir Fflint

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

01792 816600

Email:

josh.humphries@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau sydd yn ddigartref ar hyn o bryd, neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Gallent fod yn byw mewn llety dros dro neu newydd symud i lety parhaol. Ein nod yw i gefnogi unigolion sydd â’r cyflyrau uchod i sicrhau llety parhaol ac i fyw’n annibynnol, gan dorri’r cylchdro digatrefedd a bod yn agored i niwed.

Fel gwasanaeth, gweithiwn ochr yn ochr gyda Thîm Opsiynau Tai Cyngor Sir y Fflint a Swyddogion Cefnogaeth Tai.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Anghenion sylfaenol ein cleientiaid yw iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau sy’n barhaus neu’n cyd-ddigwydd. Mae’r gefnogaeth a gynigir wedi ei leoli yn bennaf yn eiddo llety dros dro Cymunedol Sir y Fflint neu yng nghartrefi ein cleientiaid sydd wedi sicrhau llety parhaol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darparwn wasanaeth cyfannol, person-ganolog sy’n anelu i alluogi yr unigolyn i fyw bywyd annibynnol. Darparwn gefnogaeth sy’n ymwneud â thai a llesiant, megis ymyrraethau mewn argyfwng, ymyrraethau byr, ac adeiladu sgiliau. Gweithiwn mewn partneriaeth gyda phrosiectau eraill o fewn Adferiad, yn ogystal â gwasanaethau trydydd sector yn y gymuned yn Sir y Fflint.

Atgyfeirio

Derbyniwn atgyfeiriadau gan lwybr unigol tai Sir y Fflint (Opsiwn Tai).

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.