Am y Prosiect
Mae’r Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl yn cefnogi unigolion ag anghenion iechyd meddwl a / neu ddefnyddio sylweddau sydd yn ddigartref ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, sydd yn byw mewn llety dros dro neu wedi symyd i lety parhaol. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Thîm Opsiynau Tai Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a Swyddogion Cymorth Tai. Cefnogwn ein cleientiaid â’r cyflyrau uchod i’w helpu i’w galluogi i sicrhau llety parhaol ac i fyw’n annibynnol.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Anghenion sylfaenol ein cleientaid yw iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau sy’n barhaus neu’n cyd-ddigwydd. Mae ein cefnogaeth wedi’i leoli’n bennaf yng Nghymuned Wrecsam, adeiladau Llety Dros Dro WMBC neu yng nghartrefi cleientiaid sydd wedi sicrhau llety parhaol.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfannol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sy’n anelu at alluogi’r cleient i arwain taith hunangyfeiriedig. Rydym yn cyflawni’r uchod drwy gydweithio mewn partneriaeth a chydweithrediad â gwasanaethau / prosiectau Adferiad yn ogystal â gwasanaethau statudol a thrydydd sector yng nghymuned Wrecsam. Rydym hefyd yn darparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai a lles, megis ymyriadau argyfwng, ymyriadau byr ac ymyriadau therapiwtig sy’n canolbwyntio ar iechyd a lles.
Proses Atgyfeirio
Derbyniwn atgyfeiriadau gan y Porth Tai WMBC, y Tîm Opsiynau Tai a Swyddogion Cymorth Tai.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.