Gwasanaeth Cymorth Tenantiaeth Powys 16+

Sir:

Powys

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener (apwyntiadau ar gael ar ôl 5pm drwy drefniant)

Ffôn:

0300 7772258

E-bost:

sarah.langford@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae gwasanaeth cefnogaeth tenantiaeth 16+ Powys wedi eu lleoli ar draws Powys, gyda’n prif swyddfa yn Llanfair-ym-Muallt ar faes y Sioe Frenhinol. Mae ein gwasanaeth yn bwysig oherwydd ein bod yn cefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal awdurdod lleol i fyw’n annibynnol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn bobl ifanc o 16 mlwydd oed. Rydym yn cyfarfod pobl ifanc yn lle bynnag maent yn dymuno ac yn cynnig cefnogaeth gyda sgiliau byw’n annibynnol megis cyllido, sgiliau coginio, ac i fynychu apwyntiadau megis yn y ganolfan waith.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darparwn ymagwedd sy’n berson-ganolog, trwy asesu’r holl anghenion cefnogaeth. Mae ein cefnogaeth yn cwmpasu pob ardal o fywyd person ifanc, o sgiliau byw’n annibynnol, addysg / gwaith, iechyd corfforol a meddyliol, llesiant, i hyrwyddo perthynasau iach, dysgu sgiliau newydd, a datblygu a chynnal perthynasau ystyrlon. Trwy hyn, gall ein pobl ifanc wneud penderfyniadau positif a chyfrannu/cymryd rhan yn eu cymuned leol.

Atgyfeirio

Mae angen i unigolion fod dros 16 mlwydd oed, yn gadael gofal ac yn byw ym Mhowys. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.