Am y Prosiect
Busnes Mynachlog Nedd. Mae’n adeilad sy’n gyfeillgar i bobl ifanc, ble mae cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau yn ogystal ag ystafelloedd ar gyfer cynnal asesiadau ac ymyrraethau byr / therapiwtig. Nod ein gwasanaeth yw i leihau troseddu ac ail droseddu gan blant a phobl ifanc. Rydym yn ymwybodol bod anghenion plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed sy’n ymwneud â chyffuriau ac alcohol yn wahanol i rai oedolion, ac felly mae ein ymyrraethau sydd wedi eu teilwra i anghenion unigol yn hynod bwysig. Golygai hyn weithio ar alluoedd cymdeithasol ac emosiynol, yr hyn y cyfeirir atynt yn aml fel ‘sgiliau meddal’. Maent yn cynnwys: hunan-ymwybyddiaeth, ymwybyddiaeth gymdeithasol, dealltwriaeth o’n hemosiynau ein hunain ac eraill, rheoli teimladau a hunan-ddisgyblaeth. Maent yn ymwneud â ‘chydbwysedd mewnol’ person: newid mewn ymagwedd, hyder neu hunan-reolaeth.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn bobl ifanc rhwng 10 ac 18 mlwydd oed sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gallwn gefnogi o’n swyddfa, o gartref y cleient, cartrefi preswyl, ysgolion, neu ble bynnag mae cleientiaid yn teimlo’n fwyaf cyfforddus.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae pob person ifanc yn derbyn asesiad trylwyr o’u hanghenion o ran eu defnydd sylweddau, a darperir addysg ac ymwybyddiaeth sy’n unol â’r anghenion canfyddedig bob amser. Cymerir ofal i sicrhau bod anghenion dysgu, lleferydd a iaith pobl ifanc yn cael eu hystyried, a dyma’r fantais o weithio mewn a bod wedi ein lleoli o fewn tîm aml-ddisgyblaethol ble mae gweithwyr proffesiynol yn rhannu gwybodaeth hanfodol er mwyn sicrhau’r deilliannau gorau ar gyfer y plant. Yn bwysig, hefyd, rydym yn cefnogi plant mewn teuluoedd ble mae rhieni sy’n defnyddio cyffuriau, gan ennill ymddiriedaeth gyda rhieni sy’n defnyddio sylweddau i gefnogi ac i gynnal bywyd teuluol a sicrhau’r diogelwch uchaf ar gyfer y plant. Rydym hefyd yn cefnogi pobl ifanc i fynychu apwyntiadau sy’n ymwneud â iechyd (meddyg teulu / deintydd / clinigau iechyd rhywiol) na fyddent yn eu mynychu fel arall, ac yn gweithio cam wrth gam tuag atynt yn dod yn ddigon hyderus i wneud hyn ar eu pen eu hunain.
Argyfeirio
Daw atgyfeiriadau i’n gwasanaeth yn uniongyrchol i’n tîm gan yr Heddlu, y Tîm Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol, Ysgolion a’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r manylion uchod.