Am y Prosiect
Mae Gwasanaeth Cefnogaeth Ffrindiau a Theulu Sir Benfro wedi ei leoli yn Hwlffordd ac yn cefnogi gofalwyr ar draws Sir Benfro. Mae ein gwasanaeth yn cynnig mynediad i gefnogaeth cymheiriaid, gwybodaeth, a chyngor i ofalwyr sy’n gofalu am aelod o’r teulu, ffrind, neu gymydog sydd â salwch meddwl. Ein nod yw i gysylltu gofalwyr gyda’u cymuned leol ac i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth un i un yn ogystal â chefnogaeth o fewn grwp wythnosol i ofalwyr.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn oedolion (18 oed ac uwch) sy’n ofalwyr di-dâl i unigolion sydd â salwch meddwl.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Darparwn fynediad i wybodaeth a chyngor i ofalwyr, asesiad allgymorth i ofalwyr, a chefnogaeth cymheiriaid i ddefynyddwyr gwasanaeth. Mae’r gwasanaeth hefyd yn eu cysylltu i’w cymuned leol, a sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Rydym yn ffocysu ar lesiant cyffredinol gofalwyr a sut y gallwn eu cefnogi’n ymarferol trwy sicrhau fod eu hanghenion iechyd a llesiant hwy yn cael eu cefnogi a’u diwallu i’w helpu i barhau gyda’u rôl gofalu.
Atgyfeirio
Does dim angen atgyfeiriad – mae’r gwasanaeth yn agored i oedolion (18 oed ac uwch) sy’n ofalwyr di-dâl yn Sir Benfro. Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.