Gwasanaeth Byw â Chymorth Caerdydd

Sir:

Caerdydd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

8yb – 8up
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

07534 474425

E-bost:

cardiff-sls@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Gwasanaeth Byw â Chymorth Caerdydd yn yn fodel Craidd a Chlwstwr, ble mae unigolion yn cynnal eu tenantiaethau eu hunain o fewn blociau neu glystyrau o fflatiau yng Nghaerdydd. Mae Adferiad yn darparu pecyn gofal cartref a chymorth wedi’i dargedu i bob person, i alluogi unigolion i fod mor annibynnol, actif, diogel â phosibl a chynnal eu tenantiaeth.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Rydym yn cefnogi oedolion 18 mlwydd oed ac uwch sydd ag angen sylfaenol o iechyd meddwl, a allai hefyd wynebu anawsterau cymdeithasol, corfforol neu ddysgu, yn ogystal â’r heriau sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau, sydd wedi’u hadnabod fel bod angen cefnogaeth mewn nifer o ardaloedd i’w galluogi i reoli eu tenantiaeth tai yn annibynnol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Anelwn i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i unigolion sy’n profi heriau iechyd meddwl difrifol, anableddau dysgu, problemau iechyd corfforol ac / neu ddefnydd sylweddau.  Darperir ein gwasanaeth mewn modd sy’n hyrwyddo dewis, hunan-benderfyniad, annibyniaeth, ac adferiad. Mae’r cymorth yn seiliedig ar yr anghenion a aseswyd y person, eu dewisiadau a’u hoffterau personol gyda’r nod o hyrwyddo llesiant a chyflawni eu deilliannau a nodwyd.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Cymorth i reoli llety ac i deimlo’n ddiogel
  • Help i wneud dewisiadau ac i gymryd risgiau positif
  • Cymorth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
  • Cymorth ariannol ac arwyddbostio
  • Cymorth i gael ffordd iach o fyw gan gynnwys bwyd, siopa ac ymarfer corff
  • Cymorth gyda gofal personol

Atgyfeirio

Mae ein gwasanaeth yn berthnasol i oedolion sy’n profi salwch meddwl, a allai hefyd wynebu anawsterau cymdeithasol, corfforol neu ddysgu, yn ogystal â heriau sy’n gysylltiedig â defnydd sylweddau sydd, yn dilyn asesiad llesiant, wedi’u hadnabod fel bod angen gofal a chefnogaeth.

Os hoffech ofyn am ragor o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.