Gwasanaeth Byw â Chymorth Brithdir House

Sir:

Caerdydd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Mae’r Gwasanaeth Byw â Chymorth yn cael ei staffio rhwng 8 a.m. a 8 p.m., saith diwrnod yr wythnos.

Am y prosiect

Mae Gwasanaeth Byw â Chymorth Brithdir House yn cynnwys chwe fflat sydd o fewn yr un adeilad, sef pump ar gyfer yr unigolion sydd yn profi afiechyd meddwl a’r chweched ar gyfer swyddfa, lle cymunedol a lle i staff gysgu dros nos.

Mae’r Gwasanaeth yn darparu pecyn gofal ac unigol i bob person. Mae’r gefnogaeth ar gyfer unigolion yn caniatáu pob person i fod mor annibynnol, gweithgar a diogel ag sydd yn bosib, tra hefyd yn hyrwyddo a’n protestio eu hawliau dynol ac yn rhoi’r ansawdd bywyd gorau posib iddynt.

Mae staff Gwasanaeth Byw â Chymorth Brithdir House yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, gwasanaethau Iechyd meddwl, teuluoedd, gofalwyr a mudiadau eraill er mwyn darparu gwasanaeth sydd yn seiliedig ar ganlyniadau er mwyn hyrwyddo lles ac adferiad, sydd yn ffocysu ar eu hanghenion, dyheadau a’r blaenoriaethau ar gyfer pob unigolyn.

Bydd y gwasanaeth yn rhoi’r cyfle i unigolion i ddatblygu eu sgiliau byw’n annibynnol a’n cynnal eu tenantiaethau.

Mae’r prosiect yn cael ei staffio rhwng 8 a.m. a 8 p.m.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Mae’r Gwasanaeth Byw â Chymorth yn berthnasol i oedolion sydd yn profi afiechyd meddwl, ac wedi derbyn asesiad lles, mae wedi ei gadarnhau bod angen gofal a chymorth arnynt.
Mae atgyfeiradau i’r Gwasanaeth Gofal yn y Cartref yn cael eu nodi gan Dîm Gofal Cymdeithasol Caerdydd a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Byddant yn rhoi manylion yr unigolyn, Cynllun Gofal a Thriniaeth cyfredol, Asesiad Risg ac Asesiad Lles i Adferiad Recovery.
Yn ystod yr asesiad ar gyfer symud i mewn, bydd staff Adferiad Recovery yn gweithio gyda’r unigolyn, Tîm Lleoliad Cymhleth a Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol er mwyn sicrhau bod anghenion yn cael eu nodi a bod yna fodd i reoli’r broses o bontio’r broses o symud i mewn, a hynny mewn modd sydd yn diwallu anghenion yr unigolyn.

Adnoddau