Am y Prosiect
Rydym wedi ein lleoli yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar ddydd Llun a dydd Mercher, ac am un diwrnod, dydd Mawrth, yn sbyty Llandochau. Mae Sain Ffagan yn lleoliad hardd wedi ei amgylchynu gan fywyd gwyllt a gwyrddni. Yn ogystal â’n gardd ein hunain, rydym hefyd yn cefnogi i ofalu am ardaloedd penodol o fewn y gerddi cyhoeddus. Yn Ysbyty Llandochau, mae gennym nifer o welyau plannu sydd mewn gofod cyhoeddus y gellir ei ddefnyddio gan gleifion, teuluoedd a’r staff. Anelai ein gwasanaeth i darparu ymagwedd gyfannol i adferiad iechyd meddwl trwy gyfranogiad mewn gweithgareddau garddwriaeth. Gweithiwn gyda leientiaid i ymuso ac i hyrwyddo eu cyfranogiad gweithredol yn eu hadferiad eu hunain. Mae’r gwasanaeth hwn yn bwysig am ei fod yn cefnogi unigolion i deimlo eu bod yn gysylltiedig i gymuned, gan ddangos eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae’n rhoi gobaith bod newid positif yn bosibl.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unigolion a effeithir gan salwch meddwl. Cefnogwn eu llesiant emosiynol drwy gynnig cyfleoedd i ymgysylltu mewn weithgareddau ystyrlon, gan adeiladu ymdeimlad o gyflawniad a phrofiadau positif. Rydym hefyd yn cefnogi trafodaethau pellach a gweithgareddau creadigol i ddarparu gwybodaeth am sgiliau a strategaethau ymdopi a allai fod o gymorth.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r prosiect yn cynnwys hau, plannu, tyfu, chwynnu a gweithgareddau garddio cyffredinol, ynghyd â chelf a chrefft i gefnogi ein haelodau i adeiladu cefnogaeth cymheiriaid. Yn ogystal â’u paratoi ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli neu hyfforddiant neu yflogaeth posibl, mae’n darparu’r sgiliau i’n haelod i gefnogi eu hadferiad. Rydym yn adnabod amgylchiadau unigryw ac nghenion adferiad pob person, felly bydd siwrnai pawb yn wahanol. Rydym hefyd yn tyfu ystod o eitemau bwyd sy’n creu ymdeimlad enfawr o gyflawniad, bodlonrwydd a chymuned pan mae’n amser cynhaeaf. Mae gennym ymrwymiad i edrych ar ôl rhan o’r ardd yng ngofodau yhoeddus Sain Ffagan sy’n cael effaith cymunedol positif.
Atgyfeirio
Mae unrhyw un sydd yn 18 oed neu’n hŷn, sy’n drigolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a effeithir gan iechyd meddwl gwael yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth. Gall ffynonellau atgyfeirio gynnwys: UoW Llandochau, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, Canolfannau Gwaith, New Pathways, Byddin y Iachawdwriaeth, a mwy. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r manylion uchod os gwelwch yn dda.