Am y Prosiect
Ariennir Cefnogaeth Gofalwyr Sir Fynwy gan Gyngor Sir Mynwy ac mae’n darparu gwasanaeth allgymorth hyblyg i ofalwyr ar draws Sir Fynwy. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyfleoedd cefnogaeth, cyngor a llesiant i ofalwyr sy’n cefnogi pobl gydag angen iechyd meddwl gweithredol. Anelwn i helpu i hyrwyddo gwytnwch gofalwyr ac i ddarparu cyfleoedd seibiant o’u rôl gofalu. Gellir cynnig cefnogaeth ar sail un i un, neu mewn grwpiau. Gall staff hefyd gyfarfod gyda’r gofalwr yn y gymuned, canolfannau lleol, neu yng nghartref y gofalwr.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cynigiwn gefnogaeth i bob gofalwr unigolion 16 oed neu’n hŷn â diagnosis iechyd meddwl gweithredol, a ble mae’r un y gofelir amdanynt yn byw yn Sir Fynwy.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae ein gwasanaeth yn darparu cefnogaeth i ofalwyr yn eu rôl gofalu i leihau’r straen ar ofalwyr, i helpu i hyrwyddo gwytnwch gofalwyr, ac i gynnig cyfleoedd seibiant o’u rôl gofalu. Mae hyn yn eu galluogi i barhau i gefnogi y rhai maent yn gofalu amdanynt. Mae’r gefnogaeth a gynigir yn seiliedig ar yr anghenion sydd wedi’u hadnabod gan y gofalwr ac yn cynnwys:
▪ Cefnogaeth emosiynol a “chlust i wrando”
▪ Gwybodaeth a chyngor
▪ Cymorth i gael mynediad i asesiad gofalwr
▪ Arwyddbostio i ffynonellau cefnogaeth eraill
▪ Cyfleoedd seibiant
▪ Cefnogaeth eirioli
▪ Cefnogaeth emosiynol
▪ Grŵp Gofalwyr
▪ Mynediad i gyfleoedd hyfforddi
Atgyfeirio
Mae gennym broses atgyfeirio agored. Derbynnir atgyfeiriadau gan ofal sylfaenol ac eilaidd, hunan-atgyfeiriadau, teulu, a’r gwasanaethau cymdeithasol. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost ucho neu fel arall cysylltwch â eleri.price@adferiad.org/ ffôn 075 8079 2138