Godwin Hall

Sir:

Blaenau Gwent

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9.30 – 4.30
Dydd Llun i Ddydd Iau

Am Y Prosiect

Ariennir Canolfan Adnoddau Godwin Hall gan awdurdod lleol Blaenau Gwent. Wedi ei leoli yn Llanhilleth, mae’r prosiect yn darparu cefnogaeth un i un a grŵp i unigolion sy’n edrych i adfer ac i gynnal iechyd meddwl positif.

Pwrpas y prosiect hwn yw i gynnal iechyd meddwl a llesiant, i hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol, ac i gynorthwyo gydag adferiad ac adsefydlu trwy gydweithio gyda darparwyr statudol ac anstatudol.

Mae’r ganolfan yn darparu cefnogaeth dros 4 diwrnod (dydd Llun – dydd Iau) yr wythnos ac yn agored rhwng 9am – 5pm.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae’r staff yn Godwin Hall yn cefnogi unigolion (18+) sy’n byw ym Mlaenau Gwent sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Y nod yn Godwin Hall yw i helpu defnyddwyr gwasanaeth i ddod yn fwy annibynnol ym mhob maes o’u bywyd, yn cynnwys:

• Cymorth gyda rheoli eu hiechyd corfforol a meddyliol
• Helpu pobl i wneud dewisiadau ac i gymryd risgiau positif
• Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
• Cyngor ac arweiniad ar faeth positif, cynllunio prydau bwyd a sgiliau coginio sylfaenol
• Cefnogaeth i reoli perthynasau
• Sgiliau garddio sylfaenol
• Cefnogaeth i adnabod a chael mynediad i hyfforddiant ac addysg
• Cefnogaeth i gaffael cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
• Cefnogaeth ac arwyddbostio gyda chyllido a materion ariannol

 

Atgyfeirio

Mae gan Canolfan Adnoddau Godwin Hall bolisi atgyfeirio agored sy’n golygu y gall unrhyw un hunan-atgyfeirio,
neu gael eu hatgyfeirio i mewn i’r gwasanaeth cyn belled a’u bod dros 18 oed neu’n hŷn mlwydd oed ac yn dioddef gyda iechyd meddwl gwael.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif
ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod neu fel arall cysylltwch â Nicola.tagger@adferiad.org neu Joshua.rawlings@adferiad.org