Eich Gwydnwch

Sir:

Cymru Gyfan

Manylion cyswllt

Ffôn:

01792 816600

E-bost:

resilience@mentalhealth-uk.org

Am y Prosiect

Mae Eich Gwydnwch yn raglen ar draws y Deyrnas Unedig sy’n cefnogi gwydnwch iechyd meddwl pobl ifanc. Wedi ei ddarparu mewn lleoliadau y tu allan i addysg, mae Eich Gwydnwch yn arfogi pobl ifanc gyda’r celfi a’r wybodaeth i gynnal eu hiechyd meddwl drwy drawsnewidiadau bywyd, nawr ac yn y dyfodol. Ar y cyfan, rydym eisiau cynnig persbectif adfywiol ar wydnwch ymhlith pobl ifanc drwy gefnogi sgwrs agored ynghylch beth yw gwydnwch, a’r hyn sydd ei angen i’w adeiladu.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Wedi ei ddarparu mewn lleoliadau y tu allan i addysg i blant a phobl ifanc rhwng 14-18 mlwydd oed.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Wedi ei dylunio gyda mewnbwn gan bobl ifanc, mae’r rhaglen yn cefnogi sgwrs agored ynghylch beth yw gwydnwch, a’r hyn sydd ei angen i’w adeiladu. Wedi ei gyflwyno trwy drafodaeth sy’n seiliedig ar senario a phynciau perthnasol, megis pwysau cymdeithasol, hwyliau isel ac iselder, bydd Eich Gwydnwch yn rhoi gwell dealltwriaeth i bobl ifanc o’u hiechyd meddwl eu hunain a iechyd meddwl pobl eraill. Bydd ganddynt gasgliad o gelfi i’w defnyddio mewn ffyrdd sy’n siwtio eu hiechyd meddwl nhw, nawr ac i’r dyfodol. Pynciau eraill rydym yn eu cynnwys yw:

  •  Straen arholiadau
  • Gwneud penderfyniadau amdan y dyfodol
  • Pwysau cymdeithasol
  • Rheoli astudio
  • Cyfeillgarwch

Atgyfeirio

Os hoffech gymryd rhan yn ein rhaglen Eich Gwydnwch, ac yn teimlo y byddai o fudd i’ch sefydliad, yna cysylltwch â ni trwy’e e-bost uchod  neu ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth.