Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis

Sir:

Abertawe

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun – Dydd Gwener 9am – 5pm

Am y prosiect

Mae Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe yn wasanaeth yn y gymuned gan y GIG sydd yn ffocysu ar adnabod yn gynnar a gwella o seicosis, a hynny ar gyfer unigolion rhwng 14 a 25 mlwydd oed ar draws Bae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae Adferiad Recovery yn rhan o’r gwasanaeth hwn yn gweithio ag unigolion a hyd at dair blynedd ar ôl dechrau profi Seicosis am y tro cyntaf.

Mae Adferiad yn arbenigo yn cefnogi unigolion gyda’u hanghenion cymdeithasol, emosiynol a galwedigaethol boed 1:1 neu fel grŵp. Mae’r cymorth yn ffocysu ar y person ac yn helpu unigolion i gyflawni eu hamcanion, cynyddu hyder a dygnwch a’n datblygu sgiliau cymdeithasol drwy therapïau a gweithgareddau siarad.
Mae’r tîm YGS yn cynnwys Ymarferwyr Adferiad Recovery, Nyrsys Seiciatryddol Cymunedol Arbenigol, Seiciatryddion, Seicolegwyr, Gweinyddwyr, Therapyddion Galwedigaethol a Mentoriaid Cymheiriaid.

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Mae atgyfeiriadau yn cael eu derbyn gan Feddygon Teulu.

Adnoddau