Am y prosiect
Mae Dechrau Newydd yn ceisio ymgysylltu gyda’r sawl sydd mewn peryg o droseddu neu sydd yn rhan o’r system Cyfiawnder Troseddol ac yn eu cefnogi i:
- lleihau ail-droseddu
- gwella eu hiechyd a’u gweithredu cymdeithasol
- ymgysylltu gyda chymorth aml-asiantaeth
- gwneud newidiadau cynaliadwy i ffordd o fyw.
Mae Dechrau Newydd yn darparu ‘Opiate Substitute Therapy’ (methodon/ oral lyophilisate (Espranor) a chwistrelliad buprenorphine (Buvidal) am 12 wythnos ar ôl gadael y carchar, ac i’r unigolion sydd wedi eu dedfrydu ar gyfer Triniaeth Cyffuriau.
Bydd y gwasanaeth yn cynnig asesiadau ac ymyriadau penodol:
- cynllunio gofal ar gyfer adferiad,
- gweithgareddau grŵp,
- iechyd a lles,
- lleihau niwed,
- adferiad a gwasanaethau yn helpu ein gilydd ar gyfer y system Cyfiawnder Troseddol.
Mae gwasanaethau yn gweithio’n agos gyda’r darparwyr cymunedol presennol er mwyn trosglwyddo gofal o wasanaethau carchar, heddlu a gwasanaeth prawf, gofal iechyd a thriniaethau i mewn i gymorth adferiad.
Mae Dechrau Newydd yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda Phrosiect Kaleidoscope.
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Gwasanaethau Carchardai a Phrawf