Am y Prosiect
Mae’r Rhaglen Cefnogaeth Cyfiawnder Troseddol ‘Dechrau Newydd’ wedi ei lleoli ar draws nifer o leoliadau ar draws Gogledd Cymru ac yn anelu i ymgysylltu gyda’r rhai hynny sydd mewn perygl neu sy’n ymwneud â’r system Cyfiawnder Troseddol. Cefnogwn unigolion i leihau troseddu, i wella eu hiechyd a’u gweithrediad cymdeithasol, i ymgysylltu gyda chefnogaeth aml-asiantaeth, ac i wneud newidiadau cynaliadwy i’w ffordd o fyw.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cynigiwn gefnogaeth i’r rhai hynny sydd mewn perygl o droseddu neu sy’n ymwneud â’r system Cyfiawnder Troseddol sy’n 18 oed a hŷn.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Gweithiwn yn agos gyda’r darparwyr cymunedol presennol i sicrhau trosglwyddiad gofal o’r gwasanaethau carchar, heddlu a’r gwasanaeth prawf, a’r gwasanaethau gofal a thriniaeth i mewn i gefnogaeth adferiad ehangach. Mae Dechrau Newydd yn darparu ‘Opiate Substitute Therapy’ (methodon/ oral lyophilisate (Espranor) a chwistrelliad buprenorphine (Buvidal) am 12 wythnos ar ôl gadael y carchar, ac i’r unigolion sydd wedi eu dedfrydu ar gyfer Triniaeth Cyffuriau.
Rydym hefyd yn cynnig asesiadau ac ymyriadau penodol, gan gynnwys:
- Cynllunio gofal adferiad
- Gweithgareddau grŵp
- Iechyd a Llesiant
- Lleihau Niwed
- Gwasanaethau adferiad a chyd-gymorth i’r rhai hynny sy’n ymwneud â’r system Cyfiawnder Troseddol
Atgyfeirio
Derbyniwn atgyfeiriadau gan wasanaethau Carchar a Phrawf.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r manylion uchod.