Cyswllt Iechyd Meddwl / Substance Use Wrecsam

Sir:

Wrecsam

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener
(hyblygrwydd pan fydd angen)

Ffôn:

07929 179368

Email:

ramsey.morsy@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae’r gwasanaeth yn cefnogi cleientiaid sydd â phroblemau iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau sydd yn ddigartref ar hyn o bryd, sydd yn byw mewn llety dros dro neu newydd symud i lety parhaol. Gweithiwn ochr yn ochr gyda Thîm Opsiynau Tai Cyngor Bwrdeisdref Wrecsam a Swyddogion Cefnogaeth Tai.

Cefnogwn eu cleientiaid sydd â’r cyflyrau uchod i helpu i’w galluogi i sicrhau llety parhaol ac i fyw’n annibynnol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Anghenion sylfaenol ein cleientiaid yw iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau sy’n barhaus neu’n cyd-ddigwydd. Mae ein cefnogaeth wedi ei leoli, yn bennaf, o fewn eiddo Llety Dros Dro WMBC Cymuned Wrecsam neu yng nghartrefi cleientiaid sydd wedi sicrhau llety parhaol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darparwn wasanaeth cyfannol, person-ganolog sy’n anelu i alluogi y defnyddiwr gwasanaeth i arwain eu siwrnai eu hunain. Rydym yn cyflawni’r uchod trwy weithio ac mewn partneriaeth a chydweithrediad gyda gwasanaethau / prosiectau Adferiad, yn ogystal â gwasanaethau statudol a thrydydd sector yng nghymuned Wrecsam. Darparwn hefyd gefnogaeth sy’n ymwneud â thai a llesiant, megis ymyrraethau mewn argyfwng, ymyrraethau byr, ac ymyrraethau therapiwtig sy’n ffocysu ar iechyd a llesiant.

Atgyfeirio

Derbyniwn atgyfeiriadau gan y Porth Tai WMBC, y Tîm Opsiynau Tai a Swyddogion Cymorth Tai.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltiwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.