Am y Prosiect
Mae’r Gwasanaeth Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr yn ymroddedig i gefnogi newid trawsnewidiol o fewn y gwasanaeth iechyd meddwl ar draws ardal Abertawe. Anelwn i rymuso unigolion sydd â phrofiad byw o heriau iechyd meddwl i gymryd rhan weithredol i siapio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl. Credwn yn gryf fod gan y rhai hynny sydd wedi profi’r gwasanaethau iechyd meddwl yn uniongyrchol, neu wrth ddarparu gofal, fewnwelediadau amhrisiadwy a all yrru’r gwelliannau i’r gwasanaeth o’r llawr i fyny. Wedi ei leoli yn Abertawe, mae ein gwasanaeth yn darparu gofod hygyrch a chroesawgar ble gall unigolion rannu eu profiadau a chyfrannu tuag at ddatblygiad, dyluniad a darpariaeth parhaus gwasanaethau iechyd meddwl.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cynigiwn gefnogaeth i unigolion sy’n byw yn ardal Abertawe sy’n 18 oed neu uwch, sydd â phrofiad byw o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y dair blynedd diwethaf. Gallent hefyd fod yn ofalwr neu’n aelod o deulu rhywun sy’n
defnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl ar hyn o bryd neu wedi gwneud hynny yn ystod y dair blynedd diwethaf.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig cefnogaeth wedi ei phersonoleiddio, sydd wedi ei theilwra i anghenion unigolion sydd â phrofiad byw i sicrhau bod eu cyfranogiad mewn ymgysylltiadau yn grymuso ac yn ystyrlon. Gall y gefnogaeth yma gynnwys:
- sesiynau un i un
- gweithgareddau grwp
- rhag-gyfarfodydd
- sesiynau dibriffio
Credwn yn gryf fod mewnwelediadau a phrofiadau ein defnyddwyr yn amhrisiadwy wrth siapio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl yn ein cymuned.
Atgyfeirio
Oedolion sy’n byw o fewn Abertawe, sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn ystod y dair blynedd diwethaf, sy’n dymuno cyfrannu i wasanaethau a chefnogi gwelliannau er budd pawb, sy’n gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.