Am y Prosiect
Mae Cefnogaeth Tenantiaeth Allgymorth Wrecsam (WOTS) yn wasanaeth allgymorth sy’n cynnig cefnogaeth sy’n ymwneud â thenantiaeth i unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl ac / neu ddefnyddio sylweddau sydd yn byw’n annibynnol yn y gymuned. Mae WOTS yn helpu cadw’r unigolion yn y gymuned pan maent yn cael amser caled. Rydym yn helpu i gynnal eu tenantiaeth, i osgoi cael eu troi allan, ac yn darparu cefnogaeth i osgoi derbyniadau i’r ysbyty os nad ydynt yn angenrheidiol. Rydym yn annog ac yn ymgorffori ein cefnogaeth writh helpu’r unigolion i deimlo’n rhan o’r gymuned ehangach, gyda’r nod o leihau unigrwydd ac ynysiad.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cynigiwn gefnogaeth i unigolion gyda iechyd meddwl ac/neu ddefnydd sylweddau, gyda’r angen sylfaenol o gefnogaeth sy’n ymwneud â thai.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Mae gennym ymagwedd gyfannol i gefnogi unigolion. Credwm mewn ymagwedd bositif, gyfeillgar sydd ddim yn feirniadol nac yn ragfarnllyd. Ceisiwn symyd ar gyflymder yr unigolyn; arweinir y gefnogaeth ganddynt hwy a’r hyn y maent yn ei adnabod sydd o bwysigrwydd iddynt hwy. Ein nod yw i bob unigolyn gyrraedd eu nod optimwm i fyw yn annibynnol gyda hyder ac ymdeimlad o falchder, ac i gynnal eu safle yn y gymuned leol a’r gymuned ehangach.
Gall y gefnogaeth gynnwys; hyfforddiant sgiliau bywyd; cynnal diogelwch annedd; cyllido a sgiliau cymdeithasol; ac arwyddbostio i gefnogaeth mewnol megis Cyfle Cymru; yn ogystal â chymryd ymagwedd gyfannol, sy’n cynnwys iechyd corfforol yn ogystal â iechyd meddwl a llesiant.
Atgyfeirio
Cynigir y gwasanaeth i unigolion 18 oed a hŷn sydd ag anghenion iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau sydd angen cegnogaeth o gwmpas eu tenantiaeth, sy’n byw yn ninas Wrecsam. Mae atgyfeiriadau drwy borth Cyngor Wrecsam sy’n bwynt mynediad unigol ar gyfer pob atgyfeiriad sy’n ymwneud â thai.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.