Cymorth Tenantiaeth Allgymorth Merthyr

Sir:

Merthyr Tudful

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

07970 433055

E-bost:

mots@adferiad.org

Cyfeiriad:

6 Sgwâr Talbot,
Merthyr Tudful,
CF47 9LP

Am y Prosiect

Ariennir prosiect Cymorth Allgymorth Tenantiaeth Merthyr (MOTS) Adferad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful drwy gyllid Grant Cymorth Tai (HSG). Mae’r gwasanaeth yn wasanaeth cymorth arnofiol i’r rhai sydd ag anghenion cymorth sy’n gysylltiedig â thai. Rydym hefyd yn cynnig cymorth camu i lawr dwysach i bobl sy’n cael mynediad at gymorth trwy ein cynllun gwasgaredig. Ein nod yw darparu cymorth ymatebol, ataliol ac sy’n canolbwyntio ar dai i alluogi unigolion ag anghenion cymorth sy’n gysylltiedig â thai i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Ffocws unrhyw ymyriadau sy’n gysylltiedig â thai yw datblygu neu gynnal gallu unigolyn i fyw yn eu llety eu hunain a chyflawni lefelau cynyddol o annibyniaeth.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn unigolion (18 mlwydd oed ac uwch), ar draws sir Merthyr Tudful sydd mewn risg neu a allai fod mewn risg o golli eu tenantiaeth. Mae’r gefnogaeth ar gyfer lleihau’r risg ac i alluogi unigolion i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu llety presennol neu yn eu tenantiaeth newydd.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Ein nod cyffredinol yw i ddarparu cefnogaeth sy’n meinio er mwyn i unigolion allu cynnal tenatiaethau tymor hirach, gan dorri’r cylchdro digartrefedd a bod yn agored i niwed. Darparwn ein gwasanaethau mewn modd sy’n helpu pobl i fod yn fwy annibynnol ym mhob ardal o’u bywyd, yn cynnwys:

  • Cymorth i reoli llety a theimlo’n ddiogel
  • Cymorth gyda chyfeirio gyda chyllidebu a materion ariannol
  • Cefnogaeth i deimlo’n rhan o’r gymuned leol trwy gael mynediad at grwpiau a/neu weithgareddau lleol.
  • Cymorth a chyfeirio i gael cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
  • Help gyda rheoli materion corfforol ac iechyd meddwl

Atgyfeirio

Mae’r gwasanaeth ar gyfer unigolion 18 mlwydd oed ac uwch, sydd yn ddigartref neu sydd mewn risg o ddod yn ddigartref, neu’r rhai sy’n chwilio am gymorth i reoli tenantiaeth yn annibynnol. Gwneir atgyfeiriadau i Gefnogaeth Tenantiaeth Allgymorth Merthyr gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Merthyr Tudful.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost isod os gwelwch yn dda.