Cymorth Lle Bo’r Angen ar gyfer Iechyd Meddwl Bro Morgannwg

Sir:

Bro Morgannwg

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9am – 5pm
Dydd Llun – Gwener

Ffôn:

029 2040 7407

Am Y Prosiect

Mae’r Gwasanaeth Cefnogaeth Lle Bo’r Angen ar gyfer Iechyd Meddwl Bro Morgannwg yn cynnig cymorth i unigolion gyda materio iechyd medwl a materion sy’n ymwneud â thai. Rydym wedi lleoli yn Y Barri, ond yn cwmpasu’r Fro gyfan, o Benarth a Lecwydd i Aberogwr. Mae’r holl gefnogaeth yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cwmpasu pob maes o gymorth. Mae hyn yn bwysig oherwydd efallai na fydd defnyddwyr y gwasanaeth yn rhyngweithio â, nac yn cael cefnogaeth gan ag unrhyw un arall, ac felly trwy ein gwasanaeth rydym yn gobeithio galluogi ein defnyddwyr gwasnaeth i ddod yn annibynnol, hunanddibynnol, ac i deimlo’n rhan o’u cymuned. Gallwn gwrdd â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu cartref neu yn y gymuned, gan gynnig gwasanaeth hamddenol ac anffurfiol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Rydym yn cynnig cefnogaeth wyneb-yn-wyneb a dros y ffon sy’n ymdrin â materion sy’n gysylltiedig â thai yn bennaf,o digartrefedd a llety dros dro, i gefnogaeth i gynnal eiddo. Er mwyn cyflawni ein nodau, mae angen ffocysu ar angenion eraill fel iechyd meddwl, dibyniaeth, trais domestig, a chyllid, gan arwyddbostio at wasanaethau arbenigol os oes angen.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Rydym yn helpu ac annog defnyddwyr gwasanaeth i adennill rheolaeth o’u bywydau trwy annog agwedd ‘rhowch gynnig arni a byddwn yn eich helpu’, hyd yn oed gyda ffurflenni a gwneud apwyntiadau dros y ffôn. Rydym hefyd yn cefnogi defnyddwyr ein gwasanaeth i apwyntiadau ond yn eu hannog i ryngweithio a rhoi gwybodaeth yn hytrach na edrych am gefnogaeth. Gallwn ni gyfeirio at asiantaethau eraill am gefnogaeth arbenigol, lle gallwn hefyd helpu defnyddwyr gwasanaeth i ddilyn cynlluniau gofal yr asiantaeth. Ar y cyfan, rydym am hyrwyddo hyder a hunan-werth, gan alluogi defnyddwyr gwasanaeth i weithio tuag at ddod yn annibynnol a hunan-ddibynnol.

Atgyfeirio

Cefnogwn unigolion sydd o leiaf 16 oed yn ein gwasanaeth ond nid oes terfyn oedran uchaf. Mae defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu atgyfeirio gan y cyngor trwy Cefnogi Pobl, rhaid i bob atgyfeiriad a dderbynnir fodloni’r meini prawf a nodir gan ganllawiau’r Grant Cymorth Tai. Rhaid bod atgyfeiriadau yn byw ym Mro Morgannwg naill ai mewn eiddo neu yn stryd ddigartref, yn ogstal â profi materion iechyd meddwl a / neu anghenion sy’n cyd-ddigwydd.

I wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio, cysylltwych â ni trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad ebost isod.