Am Y Prosiect
Mae Cymorth lle bo’r Angen Iechyd Meddwl Bro Morgannwg yn wasanaeth allgymorth sy’n cynnig cefnogaeth sy’n ymwneud â thenantiaeth i unigolion sydd ag angenion iechyd meddwl sy’n byw yn y gymuned. Rydym wedi ein lleoli yn Y Barri, ond yn gweithio dros Y Fro i gyd, o Benarth a Lecwydd i Aberogwr.
Cynigwn gefnogaeth person-ganolog sy’n ffocysu ar helpu unigolion i ddod yn fwy annibynnol a hunangynhaliol, i gynnal eu tenantiaeth, i osgoi cael eu troi allan, ac i atal derbyniadau i’r ysbyty os nad oes angen. Anogwn unigiolion i deimlo’n rhan o’r gymuned leol a’r gymuned ehangach, gyda’r nod o leihau unigrwydd, ynysiad, a digartrefedd.
Darperir y prosiect cefnogaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9yb a 5p. Gall hyd newid gan fod yn hyblyg yn unol â’ch anghenion.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae Cefnogaeth Tenantiaeth lle bo’r Angen Allgymorth Adferiad Bro Morgannwg yn darparu cefnogaeth i unigolion (18 mlwydd oed a hŷn), ar draws y sir ym Mro Morgannwg. Cynnigwn gefnogaeth i unigolion gyda materion iechyd meddwl, gyda’r angen sylfaenol o gefnogaeth yn ymwneud â thai.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Cymerwn ymagwedd gyfannol i gefnogi unigolion a credwn mewn dull bositif a chyfeillgar sydd ddim yn feirniadol nac yn rhagfarnllyd. Gweithiwn gyda phob person ar eu cyflymder eu hunain; arweinir y gefnogaeth ganddynt hwy ac yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Ein nod yw i bob unigolyn i gyflawni eu nod gorau posib: i fyw’n annibynnol, gyda hyder, balchder, a lle diogel yn y gymuned leol a’r gymuned ehangach.
Gall cefnogaeth gynnwys hyfforddiant sgiliau bywyd, cynnal diogelwch trigfan, sgiliau cyllido a chymdeithasol, yn ogystal ag ymagwedd gyfannol sy’n mynd i’r afael â iechyd corfforol a iechyd meddyliol a llesiant.
Atgyfeirio
Mae’r gwasanaeth ar gyfer unigolion 18 mlwydd oed ac uwch sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref ac sy’n byw ym Mro Morgannwg. Gwneir atgyfeiriadau i Gefnogaeth Tenantiaeth lle bo’r Angen Allgymorth Adferiad Bro Morgannwg drwy Gyngor Sir Bro Morgannwg.
I wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio, cysylltwych â ni trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad ebost uchod.