Am y prosiect
Dyfeisiwyd Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd Sir y Fflint i gefnogi gofalwyr y rhai sy’n dioddef o afiechyd meddwl a defnyddio sylweddau trwy ddarparu cymorth un-i-un a grŵp, wrth hyrwyddo grymuso ac annibyniaeth y gofalwr.
Bydd pob gofalwr sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn derbyn dull cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’w helpu gyda’r amgylchiadau unigol ac unigryw y maent yn eu hwynebu trwy ddarparu mecanweithiau cymorth a chynorthwyo’r gofalwr i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth i gael eu grymuso a’u galluogi i fynd i’r afael ag anghenion y gofal, tra’n cadw eu hannibyniaeth a’u rheolaeth o’u lles eu hunain.
Trwy gydol pob achos, bydd y tîm yn cefnogi pob unigolyn o fewn eu galluoedd a’u lefel o gysur eu hunain gan ddarparu mwy neu lai o gymorth yn ôl yr angen mewn perthynas â’u rôl ofalu.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth gyda:
- Cysylltu drwy e-bost, neges destun neu ffôn
- Lles Emosiynol
- Lles Corfforol a Meddyliol
- Lles Ariannol
- Mynediad i Addysg a Hyfforddiant
- Credoau ysbrydol, diwylliannol a chrefyddol
- Cyfeirio at wasanaethau yn Sir y Fflint i ddiwallu anghenion penodol
Adnoddau