Am y Prosiect
Darparwn gefnogaeth un-i-un ar gyfer gofalwyr a theuluoedd yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r nos yn fisol ar gyfer gofalwyr ble daw gweithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau i fynychu ac i hysbysu cyfranogwyr ynghylch unrhyw ddiweddariadau cefnogaeth i ofalwyr neu i’r teulu mewn sefydliadau statudol, a trydydd sector, yn ogystal ac arwyddbostio arbenigol gan weithiwr cefnogol teulu. Gallwn hefyd ddarparu mynediad i geisiadau, trwy’r gweithiwr cefnogaeth teulu, i’r grant Amser, gan roi’r cyfle i ofalwyr i ymgysylltu mewn gweithgareddau sy’n cynnig rhywfaint o seibiant o’u dyletswyddau gofalu di-dâl.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cynigwn gefnogaeth i ofalwyr di-dâl a theuluoedd ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Rydym yn ymroddedig i gynnig gwasanaeth o safon, wedi ei ddarparu i’r answadd uchaf. Darparwn gefnogaeth un-i-un a grŵp i ofalwyr a theuluoedd yn eu cymuned leol ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, yn ogystal ag arwyddbostio arbenigol i wahanol
sefydliadau statudol a trydydd sector.
Atgyfeirio
Ystod oed y gwasanaeth yw 18 mlwydd oed ac uwch. Rydym yn derbyn atgyfeiriadau o weithwyr professiynol yn ogystal â hunan-atgyfeiriadau o ofalwyr yn uniongyrchol.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth, neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.