Am y Prosiect
Mae Cyfle Cymru yn wasanaeth mentora cymheiriaid allan o waith sy’n cefnogi pobl i wella ar ôl defnyddio sylweddau a/neu broblemau iechyd meddwl a hoffai wneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau.
Mae ein mentoriaid cymheiriaid yn tynnu ar eu profiadau byw i gefnogi pobl i symud ymlaen i hyfforddiant, addysg, gwirfoddoli a chyflogaeth.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth cyflogaeth arbenigol, gan gynnwys:
- Cyrsiau hyfforddi
- Cyfleoedd gwirfoddoli
- Help a chyngor ar sut i chwilio a gwneud cais am swyddi
- Hyfforddiant pwrpasol a fydd yn eich helpu i adeiladu eich CV
- Cam tuag at hyfforddiant cyflogaeth a chyrsiau achrededig.
Rydym yn cynnig gweithgareddau sy’n amrywio o, garddio, digwyddiadau crefft, glanhau traethau lles a gwirfoddoli, casglu sbwriel a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar gan gynnwys datblygiad personol a fydd yn mynd i’r afael â phryder, Ymwybyddiaeth o Ddefnyddio Sylweddau, ymwybyddiaeth o straen ac yn magu hyder a hunan-barch.
Proses Atgyfeirio
16-24 NEET (nid mewn Addysg, cyflogaeth na hyfforddiant) neu 25 oed a throsodd sy’n economaidd anweithgar neu’n ddi-waith hirdymor 12 mis a mwy
Cyfeiriwch dros y ffôn neu e-bost gan ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt uchod
Adnoddau