Cydweithredfa Sir Ddinbych

Sir:

Sir Ddinbych

Manylion cyswllt

Ffôn:

07825 836731

E-bost:

pete.harris@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Cydweithredfa Sir Ddinbych yn bartneriaeth ddibynadwy a phrofiadol a ddarperir ar y cyd gan Adferiad a Stori, sydd ag 20 mlynedd o brofiad o weithio yn Sir Ddinbych a thros 40 mlynedd ar draws Cymru. Ariennir y gwasanaeth gan Grant
Cefnogaeth Tai Sir Ddinbych. Mae gwasanaeth Cydweithredfa Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth gyda Stori, gydag Adferiad fel y sefydliad arweiniol.

Mae Cydweithredfa Sir Ddinbych yn darparu prosiect cefnogaeth sy’n ymwneud â thai sy’n newydd a chyfannol ac wedi ei ddylunio i gefnogi pobl sy’n byw yn Sir Ddinbych i gynnal eu llety ac i atal digartrefedd. Bydd y gefnogaeth a ddarperir yn hyblyg ac yn berson-ganolog, gan gefnogi pobl i gynnal llety cynaliadwy trwy fynd i’r afael ag unrhyw faterion iechyd meddwl, defnydd sylweddau neu unrhyw broblemau maent yn eu hwynebu, gan helpu i wella eu hiechyd a’u llesiant.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Bydd y dinasyddion a gefnogir o bob rhyw; yn 16 oed ac uwch; yn sengl neu’n rhan o gwpwl a chyda neu heb blant sy’n ddibynnol arnynt. Gallai’r dinasyddion a gefnogir fod yn byw mewn eiddo sy’n cael ei rentu’n breifat, yn lety cymdeithasol, neu’n berchennog-feddiannwr. Ond, bydd hyn hefyd yn cynnwys unrhyw anghenion cefnogaeth a adnabyddir, yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i, anghenion iechyd meddyliol a chorfforol a chaethiwed.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Darperir gefnogaeth rhwng 9am-8pm ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am-5pm ar ddydd Sadwrn. Mae yna hefyd aelod staff ar alwad os bydd argyfwng y tu allan i’r oriau gwaith hyn. Bydd y gefnogaeth a ddarperir yn hyblyg ac yn berson-ganolog, gan gefnogi dinasyddion i gynnal llety cynaliadwy trwy fynd i’r afael ag unrhyw broblemau y gallent fod yn eu hwynebu, gan helpu i wella eu hiechyd a’u llesiant ac/neu eu helpu i symud ymlaen i, neu’n agosach i, swydd neu gyfle hyfforddi ar sail eu hamgylchiadau penodol. Gallai’r gefnogaeth a ddarperir yn y prosiect hwn hefyd gynnwys cyllido, yn cynnwys cael mynediad i gyngor ariannol, datblygu sgiliau bywyd, cyflawni diogelwch, a chael mynediad i wasanaethau
a chyfleoedd eraill gyda’r nod o wneud digartrefedd yn anghylchol.

Atgyfeirio

I gael mynediad at Wasanaeth Cydweithredfa Sir Ddinbych mae’n rhaid i’r holl ddinasyddion atgyfeirio eu hunain neu cael eu hatgyfeirio i Lwybr Cyngor Sir Ddinbych. Mae’n rhaid i bawb a atgyfeirir fod yn byw yn Sir Ddinbych ac mae angen iddynt fod yn 16 mlwydd oed neu uwch.

Am fwy o wybodaeth, neu i ddarganfod mwy am y broses atgyfeirio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â 07970 435883, emma.wood@denbighshirecollaborative.org 07917 559558, neu gareth.hughes@adferiad.org 07896 087463