Cefnogi Pobl Gwynedd

Sir:

Gwynedd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Am y Prosiect

Mae’r prosiect Cefnogi Pobl Gwynedd yn darparu cefnogaeth lle bo’r angen i unigolion yn y sir sy’n ddigartref, mewn perygl o ddigartrefedd, neu angen cefnogaeth i gynnal eu tenantiaeth bresennol. Mae’r staff ar gael 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (gyda pheth hyblygrwydd yn dibynnu ar yr angen) i ddarparu cefnogaeth yng nghartrefi cleientiaid neu yn y gymuned.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu pedwar eiddo hunangynhwysol, un lofft ar gyfer unigolion sydd ag angen am lety. Mae’r eiddo hyn hefyd yn gweithredu fel carreg gamu tuag at lety parhaol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn unigolion 18 oed sc uwch sy’n byw yng Ngwynedd sydd ag anghenion yn ymwneud â thai. Mae’r staff yn gweithio’n agos gyda defnyddwyr gwasanaeth i fynd i’r afael ag unrhyw rwystrau i gael mynediad i dai neu faterion sy’n effeithio ar eullety presennol, sy’n lleihau’r risg o ddigartrefedd. Darperir y gefnogaeth yng nghartref yr unigolyn neu mewn lleoliadau cyfleus yn y gymuned.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein cefnogaeth yn berson-ganolog, yn wybodus am drawma, ac yn ffocysu ar alluogi’r unigolyn i gymryd rhan weithredol yn eu siwrnai. Gweithiwn gyda phreswylwyr i adnabod y rhwystrau a’r materion maent yn eu hwynebu o ran tai, gan greu cynllun cefnogaeth i adnabod nodau ac i fesur cynnydd. Mae’r gefnogaeth gychwynnol yn ddwys gydag ymweliadau a sesiynau cefnogaeth yn cael eu darparu o leiaf unwaith yr wythnos ac, os yn briodol, yn cynnwys cysylltiadau gydag asiantaethau eraill. Trwy gefnogi unigolion i mewn i’w cartrefi eu hunain, neu i reoli ac i gadw eu llety presennol, rydym yn lleihau effaith digatrefedd ar yr unigolyn ac ar y gymdeithas ehangach.

Atgyfeirio

Derbynnir atgyfeiriadau drwy Dîm Un Pwynt Mynediad Gwynedd. Gallwn dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer rhai 18 oed ac uwch, sydd ag anghenion sy’n ymwneud â thai ac yn byw yn sir Gwynedd.

Ar gyfer cefnogaeth i atgyfeirio i’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â ni trwy’r manylion a ddarperir uchod.