Asesiadau Gofalwyr a Gwasanaeth Cefnogaeth i’r Teulu Conwy

Sir:

Conwy

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

07970 432965

E-bost:

northwales-carers@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Gwasanaethau Gofalwyr Conwy wedi eu dylunio i helpu gofalwyr di-dâl sy’n gofalu am eu hanwyliaid sy’n delio gyda materion iechyd meddwl, defnydd sylweddau, a iechyd corfforol. Ein nod yw i ddarparu cefnogaeth wedi ei bersonoleiddio i bob gofalwr, yn unigol ac mewn sefyllfaoedd grwp, tra’n hyrwyddo eu grymuso a’u hannibyniaeth. Cynigiwn amrywiaeth o fecanweithiau cefnogaeth gan helpu gofalwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, er mwyn iddynt deimlo’n fwy grymus ac yn gallu diwallu anghenion eu hanwyliaid tra hefyd yn cynnal eu hannibyniaeth a’u llesiant eu hunain.

Mae ein tîm yn addasu lefel y gefnogaeth yn unol â galluoedd a chyfforddusrwydd pob gofalwr, gan sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu rôl gofalu.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigiwn gefnogaeth i oedolion sy’n ofalwyr, yn ogystal â ffrindiau a theulu y rhai sy’n cefnogi unigolion 18 oed a hŷn gyda materion iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Deallwn fod pob gofalwr yn wynebu amgylchiadau unigryw, felly rydym yn cymryd ymagwedd gyfannol ac yn ffocysu ar eu hanghenion penodol. Gallwn gynnig ystod o gefnogaeth, o gefnogaeth un-i-un wedi ei unigoleiddio, i grwpiau cefnogaeth
gofalwyr, sy’n ffordd wych o gyfarfod a chymdeithasu gyda gofalwyr eraill. Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i gofalwyr i drin eu cyllid, neu gydag addysg achyflogaeth. Gall ein gwasanaeth helpu gofalwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth fwyaf defnyddiol, perthnasol a chyfredol ar gyfer eu hamgylchiadau.

Rydym hyd yn oed yn darparu ystod o gyfleoedd i ofalwyr gymryd ychydig o amser allan ar gyfer eu hunain, yn cynnwys cefnogaeth i gael mynediad i seibiannau byr. Mae’r rhain i gyd yn darparu ystod o opsiynau hyblyg i siwtio anghenion unigol.

Atgyfeirio

Derbyniwn atgyfeiriadau gan oedolion sy’n ofalwyr sy’n gofalu am oedolion gyda materion iechyd meddwl ac/neu ddefnydd sylweddau yn Sir Conwy.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â rebecca.knowles@adferiad.org