Cefnogaeth Tenantiaeth Gofal Aciwt

Sir:

Sir Ddinbych

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Dydd Gwener

Ffôn:

07760 993204

E-bost:

buddug.evans@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Cefnogaeth Tenantiaeth Gofal Aciwt yn darparu cefnogaeth lle bo’r angen ar draws Sir Ddinbych i unigolion sy’n profi salwch meddwl difrifol ac ag anghenion sy’n ymwneud â thai. Mae’r prosiect hwn wedi profi i fod yn fuddiol i unigolion drwy eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain, yn ddiogel ac yn annibynnol, ac yn agos i ffrindiau a theulu.

Ein nod cyffredinol yw i ddarparu cefnogaeth sy’n meinio er mwyn i unigolion allu cynnal tenantiaethau tymor hirach, torri’r cylchdro digartrefedd / bod yn agored i niwed, a’u galluogi i fyw yn annibynnol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cefnogwn unigolion 18 oed ac uwch ar draws Sir Ddinbych sy’n profi salwch meddwl difrifol, sydd neu allai fod mewn perygl o golli eu tenantiaeth.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein cefnogaeth yn helpu cleientiaid i ddod yn fwy annibynnol ym mhob ardal o’u bywyd, sy’n cynnwys:

  • Cefnogaeth i reoli llety ac i deimlo’n ddiogel
  • Cefnogaeth i reoli perthynasau
  • Helpu i wneud dewisiadau ac i gymryd risgiau positif
  • Cefnogaeth i fynd i weithgareddau cymdeithasol neu hamdden i deimlo’n rhan o’r gymuned leol
  • Cefnogaeth i adnabod ac i gael mynediad i hyfforddiant ac addysg
  • Cefnogaeth i gaffael cyflogaeth a gwaith gwirfoddol
  • Cefnogaeth ac arwyddbostio gyda chyllido a materion ariannol
  • Help gyda rheoli materion corfforol
  • Help gyda rheoli iechyd meddwl

Atgyfeirio

Cewch eich atgyfeirio i Gefnogaeth Tenantiaeth Gofal Aciwt trwy Dîm Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Ddinbych fel arfer, ac byddwn yn ystyried pob atgyfeiriad.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.