Am y prosiect
Mae Gwasanaethau Cymorth i Ofalwyr a Theuluoedd Sir Gaerfyrddin yn darparu cymorth un i un, llinell gymorth ffôn a grŵp cymorth i ofalwyr y bobl hynny ag afiechyd meddwl difrifol ar hyd a lled Sir Gâr. Mae gwasanaethau yn cynnwys cymorth emosiynol, cyngor ymarferol ar faterion a hawliau gofalwyr, atgyfeirio at wasanaethau eraill a gwybodaeth/cyngor am wasanaethau iechyd meddwl.
Sam Martin Ffôn: 07971 302931
E-bost: samantha.martin@adferiad.org
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Unrhyw un sydd yn cefnogi rhywun sydd â phroblem Iechyd Meddwl – Hunan-atgyfeiriadau/atgyfeiriadau proffesiynol gan Feddygon Teulu, Timau Iechyd Meddwl Cymunedol a gwasanaethau’r Trydydd Sector