Am y Prosiect
Mae Gwasanaethau Cefnogaeth Gofalwyr a’r Teulu Sir Gâr yn darparu cefnogaeth un i un, a llinell gymorth a chefnogaeth grwp i ofalwyr pobl sydd â salwch meddwl difrifol ledled Sir Gâr.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Cefnogwn unrhyw un sy’n cefnogi rhywun gyda phroblem iechyd meddwl yn Sir Gâr. Mae gennym grwpiau gofalwyr yn rhedeg yng Nghaerfyrddin (yn fisol) ac yn Llanelli (pob pythefnos) ble gall pobl gyfarfod gofalwyr eraill mewn amgylchedd ymlaciol i gymdeithasu ac i gael ychydig o amser seibiant o’u rôl gofalu dydd i ddydd.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Ochr yn ochr â’r gefnogaeth un-i-un, darparwn ystod o wasanaethau sy’n cynnwys: prosiectau llesiant corfforol ac emosiynol, cyngor ymarferol ar faterion a hawliau gofalwyr, arwyddbostio i wasanaethau eraill, cyngor ar wasanaethau iechyd meddwl, cymorth i gael mynediad i Asesiad Gofalwr, cefnogaeth eiriolaeth, cymorth budd-daliadau, cyfleoedd seibiant, a cheisiadau grant.
Atgyfeirio
Mae unrhyw un 18 oed ac uwch yn gymwys. Gall atgyfeiriadau ddod gan y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, meddygon teulu, sefydliadau trydydd sector eraill a hunan-atgyfeiriadau.
Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.