Cymorth i Deuluoedd Integredig Caerdydd

Sir:

Caerdydd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00 – 17:00

Am y prosiect

Mae hwn yn wasanaeth sydd wedi ei gomisiynu a’i ariannu gan Awdurdod Lleol Caerdydd/Bro Morgannwg ac yn ceisio cynyddu lles cymdeithasol ac iechyd gofalwyr sydd yn oedolion ac sy’n gofalu am bobl sydd yn gymwys i dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae’r gwasanaeth yn ceisio darparu nifer o bethau fel sydd wedi eu rhestru isod, ynghyd â chefnogi Awdurdod Lleol Caerdydd i fabwysiadu arferion gorau o ran ei ddyletswyddau cyfreithiol tuag at ofalwyr.  

•Nifer cynyddol o Asesiadau Gofalwyr  
• Nifer cynyddol o adolygiadau o Asesiadau Gofalwyr  
•Lles cymdeithasol ac iechyd gwell ar gyfer gofalwyr sydd yn gymwys a’n cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth 
•Mwy o gyfleoedd i ofalwyr i gyd-greu gwasanaethau  
•Datblygu gwybodaeth benodol ar gyfer gofalwyr iechyd meddwl sy’n oedolion  
•Cefnogi Awdurdod Lleol Caerdydd i ddarparu gofal darbodus. 
 
Mae’r gwasanaeth yn rhan o’r 5 Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yng Nghaerdydd ac Ysbyty’r Barri yn y Fro ac yn ceisio darparu gwasanaeth cydradd i’r holl ofalwyr; mae’r gwasanaeth hefyd yn medru derbyn atgyfeiriadau gan y Tîm Fforensig a’r Tîm Niwroddatblygol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu grŵp gofalwyr misol sydd yn cael ei gynnal yn Nghanolfan Celfyddydau’r Chapter yn Nhreganna. 

Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio

Trigolion Caerdydd sydd wedi derbyn asesiad gofalwyr gan yr Awdurdod Lleol.

Adnoddau