Cymorth i Deuluoedd Integredig Caerdydd

Sir:

Caerdydd

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp
Dydd Llun – Gwener

Am y Prosiect

Mae Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd Caerdydd a’r Fro, a ariennir gan Gyngor Bro Morgannwg, yn anelu i gynyddu llesiant oedolion sy’n ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am anwylyn a effeithir gan salwch meddwl. Darparwn gefnogaeth un i un o raglen 12 wythnos a all gymryd lle mewn nifer o leoliadau cymunedol, ac rydym hefyd yn darparu grwpiau cefnogaeth misol yn Y Barri a Chaerdydd i helpu gofalwyr i gysylltu ac i gael cyd-gefnogaeth. Anelai ein gwasanaeth i gefnogi gofalwyr di-dâl yn ein cymuned i wella eu llesiant cyffredinol drwy addysg, gwybodaeth, cefnogaeth cymheiriaid a gweithgareddau llesiant.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigiwn gefnogaeth i oedolion sy’n gofalu am anwylyn a effeithir gan salwch meddwl. Os ydynt wedi cael asesiad gofalwr gellir eu hatgyfeirio i mewn ar gyfer cefnogaeth un i un, neu gael mynediad i un o’r grwpiau cefnogaeth misol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Trwy ein cefnogaeth rydym yn helpu gofalwyr di-dâl i deimlo’n llai ynysig ac unig. Rydym hefyd yn darparu’r cyfle
i wella llesiant trwy sesiynau ac addysg wedi eu ffocysu. Gyda’n gilydd rydym yn cynnig cwrs 12 wythnos o gefnogaeth
un i un ble rydym yn ceisio gwella llesiant cyffredinol y gofalwr drwy ymyrraethau penodol. Mae hyn yn cynnwys:

• Gwybodaeth a chyngor
• Cefnogaeth emosiynol
• Arwyddbostio a chyflwyniadau i wasanaethau cefnogaeth penodol
• Mynediad i wasanaeth Iechyd Meddwl ac Arian Adferiad

Hefyd, mae ein grwpiau misol yn cyflwyno cefnogaeth cymheiriaid sy’n helpu i feithrin ymdeimlad o brofiad a rennir ac hefyd yn gallu darparu cefnogaeth ar y cyd.

Atgyfeirio

Darperir gefnogaeth un i un gan Dîm Cefnogi Gofalwyr Cyngor y Fro ar gyfer trigolion Bro Morgannwg sydd wedi derbyn Asesiad Gofalwr. Mae’r grwpiau’n agored i unrhyw ofalwr di-dâl sy’n darparu cefnogaeth in unrhyw un a effeithir gan salwch meddwl.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r manylion uchod os gwelwch yn dda.