Am y Prosiect
Mae Canolfan DAWN yn adeilad aml-asiantaeth sy’n eiddo i Adferiad, ond sy’n gweithredu fel adeilad canolog ar gyfer gwasanaethau aml-asiantaeth sy’n darparu cefnogaeth defnydd sylweddau a iechyd meddwl. Mae’r ganolfan ym Mae Colwyn, Sir Conwy, ac mae’n darparu ystod eang o wasanaethau o fewn yr un adeilad. Mae’r rhain yn cynnwys Gofalwyr Adferiad, Parabl, CAMFA, CAMFA14+, Adferiad yn Cefnogi Pobl, Cyfle Cymru a Caniad. Mae’n swyddfa ganolog hefyd ar gyfer Dechrau Newydd a Gwasanaeth Defnydd Sylweddau Conwy y GIG.
Rydym yn agored o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.3yb a 5yp. Rydym ar gau ar wyliau’r banc a’r penwythnosau.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Mae Canolfan DAWN yn darparu lleoliad ar gyfer cleientiaid, aelodau’r teulu a gofalwyr i ddod iddo i gaffael gwybodaeth yn ymwneud â’u defnydd sylweddau, gan gynnig ystod eang o wasanaethau o fewn yr un adeilad. Mae gennym nifer o grwpiau, sesiynau un-i-un, ac opsiynau triniaeth wedi eu hwyluso o Ganolfan DAWN, ar apwyntiad yn unig.
Mae Canolfan DAWN, ynghyd â’r gwasanaethau sydd wedi eu lleoli yma, yn darparu ystod eang o wasanaethau, yn cynnwys gwasanaethau therapiwtig ar gyfer cleieintiaid, aelodau’r teulu a gofalwyr, tra’n cysylltu gyda gwasanaethau allweddol eraill. Cynigiwn ystod o grwpiau ar gyfer y rhai mewn adferiad, ac rydym hefyd yn cynnwys gwasanaethau eraill i helpu ein cleientiaid tuag at gael cyflogaeth. Cynigiwn gefnogaeth i ofalwyr sy’n cael trafferth gydag aelodau’r teulu, gan sicrhau eu bod nhw yn cael cefnogaeth. Gan mai Canolfan DAWN yw’r adeilad canolog ar gyfer gwasanaethau Gogledd Cymru, mae gan y staff sydd wedi eu lleoli yma, sydd wedi bod yn aelodau o’r staff yn Adferiad (CAIS a Hafal yn flaenorol) ers nifer o flynyddoedd, gyfoeth o wybodaeth i arwyddbostio cleientiaid i wasanaethau eraill os a phan mae ei angen.
Atgyfeirio
Gellir cael mynediad i’r gwasanaethau sydd wedi eu lleoli yng Nghanolfan DAWN drwy hunan-atgyfeirio neu drwy gyrff proffesiynol megis meddyg teulu, y gwasanaeth prawf, yr heddlu, ac ysbytai.
Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.