Canolfan Adnoddau Gwynedd a Chymorth i Deuluoedd

Sir:

Gwynedd

Manylion cyswllt

Ffôn:

07970 436297

E-bost:

northwales-carers@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Gwynedd wedi ei ddylunio i helpu gofalwyr di-dâl sy’n gofalu am eu hanwyliaid sy’n delio gyda materion iechyd meddwl, defnydd sylweddau, a iechyd corfforol. Ein nod yw i ddarparu cefnogaeth wedi ei bersonoleiddio i bob gofalwr, yn unigol ac mewn sefyllfaoedd grŵp, tra’n hyrwyddo eu grymuso a’u hannibyniaeth. Cynigwn amrywiaeth o fecanweithiau cefnogaeth gan helpu gofalwyr i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth, er mwyn iddynt deimlo’n fwy grymus ac yn gallu diwallu anghenion eu hanwyliaid tra hefyd yn cynnal eu hannibyniaeth a’u lles eu hunain.

Mae ein tîm yn addasu lefel y gefnogaeth yn unol â galluoedd a chyfforddusrwydd pob gofalwr, gan sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu rôl ofalu. Mae Canolfan Adnoddau Gwynedd yn darparu gweithgareddau a chefnogaeth sy’n seiliedig ar adferiad trwy gefnogaeth un-i-un, grwpiau, hyfforddiant a chynllunio lles.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Cynigwg gefnogaeth i oedolion sy’n ofalwyr, yn ogystal â ffrindiau a theulu y rhai sy’n cefnogi unigolion 18 oed a hŷn gyda materion iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau.

Sut ydyn ni’n eu wneud?

Deallwn fod pob gofalwr yn wynebu amgylchiadau unigryw, felly rydym yn cymryd ymagwedd gyfannol ac yn ffocysu ar eu hanghenion penodol. Gallwn gynnig ystod o gefnogaeth, o gefnogaeth un-i-un wedi unigoleiddio, i grwpiau cefnogaeth gofalwyr, sy’n ffordd wych o gyfarfod a chymdeithasu gyda gofalwyr eraill. Gallwn hefyd ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i helpu gofalwyr i drin eu cyllid, neu gydag addysg a chyflogaeth. Gall ein gwasanaeth helpu gofalwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth fwyaf defnyddiol, perthnasol a chyfredol ar gyfer eu hamgylchiadau.

Rydym hyd yn oed yn darparu ystod o gyfleoedd i ofalwyr gymryd ychydig o amser allan are gyfer eu hunain, gan gynnwys cefnogaeth i gael mynediad i seibiannau byr. Mae’r rhain i gyd yn darparu ystod o opsiynau hyblyg i siwtio anghenion unigol.

Proses Atgyfeirio

Derbyniwn atgyfeiriadau gan oedolion sy’n ofalwyr am oedolion gyda materion iechyd meddwl ac / neu ddefnydd sylweddau ym Mhorthmadog a’r ardol o gwmpas.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch â’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â samantha.hughes@adferiad.org