CAMFA – Cwnsela a Chymell ar gyfer Caethiwed

Sir:

Conwy Gwynedd Sir Ddinbych Sir Fflint Wrecsam Ynys Môn

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp

Dydd Llun – Dydd Gwener

Apwyntiadau gyda’r nos ar gais

Ffôn:

01492 523690

Email:

enquiries@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae CAMFA’n cefnogi pobl yn chwe sir Gogledd Cymru, sef Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n wasanaeth i bobl sy’n pryderu am eu defnydd cyffuriau ac / neu alcohol eu hunain ac angen cefnogaeth i barhau i fod yn rhydd o gyffuriau ac / neu alcohol. Rydym hefyd yn wasanaeth ar gyfer y rhai hynny sydd wedi eu heffeithio gan ddefnydd sylweddau aelod o’r teulu.

Gellir darparu’r gwasanaeth hwn naill ai wyneb-yn-wyneb, ar-lein, neu dros y ffôn, rhwng dydd Llun a dydd Gwener, rhwng yr oriau 9yb a 5yp. Ond rydym hefyd yn cynnig rhaiapwyntiadau gyda’r nos hefyd, i ddiwallu anghenion pobl.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae’n wasanaeth therapiwtig ar gyfer pobl 18 oed a hŷn sydd angen ymyrraethau seicolegol arbenigol am ddefnydd sylweddau. Cynigiwn ystod eang o ymyrraethau, o gefnogaeth cwnsela un-i-un, cyfweld ysgogol, ac ymyrraethau byr estynedig i therapi gwybyddol ymddygiadol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Gellir cynnig hyd at 12 seicolegol i gleientiaid i helpu gyda’u hadferiad. Mae gennym ystod o leoliadau ar gyfer darpariaeth wyneb yn wyneb yn y chwe sir yr ydym yn darparu ynddynt. Fel rhan o’r gwasanaeth, gall pobl gael atgyfeiriadau i mewn i’r grwpiau adferiad sy’n cynnwys MOIMR, Nudge a Pathways to Recovery, ffurf arall o wasanaethau sy’n helpu pobl yn eu hadferiad. Gallwn gynnig arweinlyfrau hunan-gymorth a deunyddiau eraill fel yn briodol tra’n disgwyl nes bod therapydd ar gael, ac hefyd yn gallu arwyddbostio i wasanaethau eraill mewnol ac allanol yn ôl yr angen. Cynigir y gwasanaeth hwn hefyd yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae gennym y gallu i’w ddarparu yn yr iaith Bwylaidd hefyd.

Atgyfeirio

I gael mynediad i’r gwasanaeth gallwch naill ai hunan-gyfeirio (sef y dull y byddem yn ei argymell), neu gellir eich atgyfeirio trwy unrhyw wasanaeth proffesiynol, h.y. meddyg teulu, gwasanaeth prawf, heddlu a.y.y.b., cyn belled a’ch bod yn byw yn un o 6 sir Gogledd Cymru, gyda meddyg teulu yn yr un ardal hefyd.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â 03450 612112