Gwasanaeth Byw â Chymorth Ceredigion

Sir:

Ceredigion

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 6yh
7 diwrnod yr wythnos

Ffôn:

01970 624756

E-bost:

wayne.hurley@adferiad.org

Am y Prosiect

Mae tîm staff Prosiect Iechyd Meddwl Arbenigol Cartref Adferiad wedi’u lleoli yn Heol Portland, Aberystwyth. Mae cefnogaeth y prosiect wedi’i chynllunio i ddiwallu anghenion y rhai sy’n profi salwch meddwl difrifol (SMI), sydd ag anghenion
cymhleth, ac sydd angen lefelau uchel o gymorth dwys. Rydym yn cynnig cymorth sy’n galluogi pob unigolyn i osgoi mynd i’r ysbyty, byw yn eu cymuned, ac yn eu cartref yn annibynnol. Rhan fawr o rôl cefnogi Adferiad yw helpu’r unigolion i dderbyn eu diagnosis a helpu i nodi dangosyddion ailwaelu. Rydym hefyd yn rhoi cefnogaeth i ddod o hyd i weithgareddau ystyrlon a all amrywio o waith gwirfoddol, hyfforddiant, addysg a grwpiau cymdeithasol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae Gwasanaeth Cymorth Cartref Iechyd Meddwl Arbenigol Ceredigion yn cael ei ddarparu i unigolion 18 oed a hyn sydd wedi cael diagnosis meddygol o salwch meddwl, fel arfer sgitsoffrenia neu anhwylder affeithiol difrifol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Nod cyffredinol y gwasanaeth yw galluogi unigolion i fyw’n annibynnol. Fel rhan o’r cynllun cymorth i unigolion, bydd gweithwyr cymorth Adferiad yn darparu cyngor ar reoli cyllidebau personol, cynnal rhwydweithiau cymorth, a rheoli perthnasoedd â chymydogion a theuluoedd. Bydd staff hefyd yn cefnogi preswylwyr unigol i gael mynediad at wasanaethau eraill fel tai arbenigol a chyngor ariannol, gwasanaethau gofal neu driniaeth. Yn ogystal, bydd staff yn cefnogi pob preswylydd i gael mynediad i lety, cynnal a chadw a rheoli llety drwy gynorthwyo unigolion i ddatblygu neu gynnal y sgiliau a’r hyder angenrheidiol i fyw mor annibynnol â phosibl.

Atgyfeirio

Gellir cyfeirio unigolion at y Panel Broceriaeth / Comisiynwyr gan eu Cydlynydd Gofal CMHT neu Weithiwr Cymdeithasol, yn ogystal â Chyngor Sir Ceredigion neu Hywel Dda.

Os hoffech drafod y broses atgyfeirio gyda ni neu ofyn am fwy o fanylion, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod.