Bodhyfryd

Sir:

Conwy

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

24 awr

Am y Prosiect

Mae Bodhyfryd yn dŷ chwe llofft yn Llandudno sy’n darparu llety brys i ddynion sydd mewn perygl o ddigartrefedd wedi iddynt gael eu rhyddhau o’r carchar. Darperir y gefnogaeth yn fewnol gan Adferiad, gyda chynllun “symud ymlaen” wedi ei ddatblygu gan Gyngor Conwy. Datblygwn gynllun cefnogaeth gyda’n preswylwyr sy’n rhoi eglurder o ran yr hyn a ddisgwylir gan staff a ganddynt hwy eu hunain. Cefnogwn cleientiaid gyda sgiliau bywyd megis cynnig gwersi coginio a chyllido, a phob ardal i alluogi’r cleient i fyw’n annibynnol.

Ein nod cyffredinol yw i gefnogi cleientiaid i roi’r gorau i weithgareddau troseddol ac i aros allan o’r carchar.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Yn bennaf, rydym yn cynnig cefnogaeth i ddynion fydd yn ddigartref wedi iddynt adael y carchar. Gall ein cleientiaid fod ag ystod o anghenion, o ddiagnosis iechyd meddwl, i flynyddoedd o ymddygiad troseddol a digartrefedd.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae’r gefnogaeth person-ganolog yn rhoi dealltwriaeth eglur i’r cleientiaid ac i’r Mentor Cefnogaeth Tai o nodau’r cleient a sut y byddent yn cael eu cefnogi i’w cyfawni. Rydym hefyd yn cefnogi cleientiaid pan maent yn cyrraedd i wneud cais am y Credyd Cynhwysol ac i gofrestru gyda meddyg teulu a deintydd. Gall staff fynd gyda cleientiaid i bob apwyntiad os oes angen e.e., y gwasanaeth prawf, meddygol, gwasanaethau cymdeithasol a chyfreithwyr. Rydym hefyd yn atgyfeirio ein cleientiaid i wasanaethau Adferiad, megis Cyfle Cymru, i’w galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ac i fynychu cyrsiau, ac i’w cefnogi gyda sgiliau bywyd trwy ddarparu gwersi coginio a chyngor cyllido.

Atgyfeirio

Arweinir broses atgyfeirio Bodhyfryd gan Lisa Roberts, sef y Swyddog Atal Digartrefedd ar gyfer rhai sy’n gadael y carchar.

Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth neu i drafod y broses atgyfeirio gyda ni, cysylltwch trwy ddefnyddio’r rhif ffôn neu’r cyfeiriad e-bost uchod, neu fel arall, cysylltwch â rachel.templeton@adferiad.org