Am y Prosiect
Mae Bloom yn raglen sy’n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig sy’n cefnogi gwytnwch iechyd meddwl pobl ifanc. Yn cael ei ddarparu mewn ysgolion a cholegau, mae Bloom yn arfogi pobl ifanc gyda’r celfi a’r wybodaeth sydd eu hangen i gynnal eu hiechyd meddwl drwy drawsnewidiadau bywyd, nawr ac yn y dyfodol.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Darperir ein gwasanaeth mewn ysgolion a cholegau i blant a phobl ifanc 14 – 18 mlwydd oed.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Dengys tystiolaeth bod darparu cefnogaeth ataliol dda, yn gynnar, ac yn y lle cywir, yn gallu helpu i osgoi dirywiad yn iechyd meddwl pobl ifanc a’u harfogi ar gyfer heriau bywyd pob dydd. Trwy ddarparu hyfforddiant i staff ysgolion a cholegau, rydym hefyd yn anelu i gael effaith tymor hir ym mhob lleoliad yr ydym yn gweithio ynddo. Mae gennym ymrwymiad i etifeddiaeth trwy ddarparu cefnogaeth barhaus i’r ysgolion a’r colegau sy’n cymryd rhan, ac mae ein gweithdai, cyrsiau a hyfforddiant wyneb yn wyneb, rhad ac am ddim mewn ysgolion ar gael ym mhob cenedl o’r Deyrnas Unedig.
Referral
Os hoffech fwy o wybodaeth ac i ddod i wybod sut i gymryd rhan, cliciwch ar ein gwefan uchod neu cysylltwch â ni drwy ein cyfeiriad e-bost os gwelwch yn dda.