Am y Prosiect
Mae Arian a Fi yn annog ac yn grymuso pobl ifanc i archwilio ac i ddeall y rhyngysylltiad rhwng arian a iechyd meddwl trwy gefnogi eu dealltwriaeth ynghylch sut y gall ein agweddau tuag at arian ddylanwadu ar ein meddyliau a’n hymddygiadau. Mae’r rhaglen yma’n rhoi casgliad o sgiliau a chelfi i adeiladu gwytnwch sy’n ymwneud ag arian y gallent eu defnyddio i gefnogi eu hunain, nawr ac yn y dyfodol.
Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?
Darperir y rhaglen mewn ysgolion, colegau a lleoliadau cymunedol ar draws y Deyrnas Unedig i bobl ifanc 14 – 18 mlwydd oed.
Sut ydyn ni’n ei wneud?
Bydd y gweithdai Arian a Fi yn defnyddio sefyllfaoedd bywyd go iawn ynghyd â gweithgareddau unigol a grwp, gan roi’r wybodaeth a’r hyder i bobl ifanc i ddeall y dylanwad y mae arian yn ei gael ar eu llesiant a’u hiechyd meddwl. Mae’r adborth gan bobl ifanc hyd yn hyn yn pwysleisio pa mor rymusol oedd gallu mynegi eu teimladau am bryderon ariannol mewn sefyllfa anfeirniadol. Maent yn fwy gwerthfawrogol o’r cydadwaith a’r effaith sydd gan arian a iechyd meddwl ar y naill a’r llall ac, yn hollbwysig, yn teimlo’n hyderus ac yn rymusol i gymryd rheolaeth ac i estyn allan am gefnogaeth.
Atgyfeirio
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am Me & Money, neu os hoffech gymryd rhan, cysylltwch trwy’r e-bost uchod, neu yourresilience@mentalhealth-uk.org neu ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda.