Am y Prosiect
Darparu cymorth allgymorth arbenigol i wella a datblygu perthnasoedd a chanlyniadau i’r teulu cyfan.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth gyda:
- Nodi a datblygu cynlluniau gofal i ddiwallu anghenion a nodwyd gan rieni/gofalwyr.
- Adnabod a chysylltu â gwasanaethau priodol i ddiwallu anghenion a nodwyd.
- Gweithio gyda Rhieni/Gofalwyr i leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau.
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd i unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
- Gweithio mewn partneriaethau gydag asiantaethau ymroddedig i ddarparu cefnogaeth a chymorth cyfannol.
- Rydym yn gweithio gydag asiantaethau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, CAFCASS, Gweithwyr Iechyd Proffesiynol, Gwasanaethau yn y Gymuned, Tai, G.P, Antenatal, Blynyddoedd Dysgu Cynnar a gwasanaethau priodol eraill sy’n gweithio gyda theuluoedd.