Gwasanaethau Cefnogaeth Tai Castell-nedd Port Talbot

Sir:

Castell-nedd Port Talbot

Manylion cyswllt

Amseroedd agor:

9yb – 5yp Dydd Llun – Gwener

Ffôn:

01639 890863

Cyfeiriad:

15 Gerddi Fictoria, Castell-nedd, SA11 3AY

Am y Prosiect

Ariennir ein gwasanaethau cefnogaeth tai gan y Grant Cefnogaeth Tai sy’n anelu i atal digartrefedd a chefnogi pobl i gael mynediad i ac/neu gynnal cartref sefydlog ac addas. Mae ein gwasanaethau yn cefnogi unigolion sy’n profi materion yn ymwneud â’u defnydd alcohol neu gyffuriau, a allai hefyd fod yn ddigartref, yn profi anawsterau wrth geisio sicrhau llety, neu’n agored i niwed mewn llety o fewn ardal Castell-nedd Port Talbot.

Anelai ein gwasanaethau i weithio tuag at leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â cheisio am gymorth ar gyfer defnydd alcohol a chyffuriau a bydd yn galluogi unigolion i fyw mewn llety, mor annibynnol â phosibl trwy ddatblygu a chynnal eu sgiliau bywyd a rhwydweithiau cymdeithasol.

Pwy ydyn ni’n eu cefnogi?

Mae ein gwasanaethau’n gweithredu yn ardal Castell-nedd Port Talbot, ac yn darparu cefnogaeth i unigolion yn y gymuned leol i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder i fyw’n annibynnol.

Sut ydyn ni’n ei wneud?

Mae ein gwasanaethau yn darparu cyfle unigryw i dorri’r i lawr y rhwystrau gydag unigolion sy’n agored i niwed sydd, o bosibl, eisioes wedi profi cywilydd ac euogrwydd yn gysylltiedig gyda’u defnydd sylweddau a’r effaith y gallai hyn ei gael ar eu
tenantiaeth / llety. Gall cyfarfod gyda gweithwyr proffesiynol fod yn fygythiol iawn i bobl sydd, o bosibl, wedi cael profiadau negyddol drwy gydol eu bywyd, felly mae gallu cyfarfod gyda phobl yn y gymuned neu mewn lleoliad sy’n teimlo’n gyfforddus iddynt yn galluogi i newidiadau positif ddigwydd. Rydym hefyd yn adnabod y gallai rhai unigolion fod yn cael trafferth cael mynediad i gefnogaeth oherwydd diffyg arian, a dyma pam mae Bws Allgymorth Adferiad yn ased gwerthfawr. Pan mae unigolion wedi ymgysylltu gyda gweithiwr cefnogol, defnyddiwn adolygiadau rheolaidd sy’n anelu at nod ble gall unigolion adnabod eu gofynion cefnogaeth eu hunain a chamau i gyflawni’r nodau maent wedi eu hadnabod.

Atgyfeirio

I gael eich derbyn i mewn i’n gwasanaethau mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu uwch, yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac angen cefnogaeth gydag alcohol ac/neu gyffuriau. Mae’n rhaid hefyd i chi fod angen cefnogaeth i sicrhau ac/neu gynnal tenantiaeth ac i fyw’n annibynnol o fewn y gymuned. Derbyniwn hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau gan sefydliadau eraill sy’n gweithio gydag unigolion sy’n defnyddio alcohol ac/neu gyffuriau ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am fwy o wybodaeth trwy ddefnyddio’r manylion uchod.