Am y prosiect
Beth yw Academi Adferiad
Mae Academi Adferiad yn rhaglen Adferiad er mwyn annog myfyrwyr sydd yn hyfforddi am yrfa yn y trydydd sector i gael profiad ymarferol a hyfforddiant gydag Adferiad.
Mae’n cynnig:
- Rhaglen hyfforddi 12 wythnos
- Profiad gwaith mewn gwasanaeth Adferiad o’ch dewis chi
- Cyfle i ddysgu am ein gwaith
- Anerchiadau gan ymarferwyr o’r meysydd amrywiol
- Cymwysterau achrededig
Ble mae’n cael ei gynnig?
Mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnig ar-lein fel rhan o Zoom/ Teams, gyda chyfle i weithio ar draws Cymru (gan ddibynnu ar y gwasanaeth).
Sut i Wneud Cais
Os hoffech gael mwy o wybodaeth, yna cysylltwch gyda thîm Academi Adferiad ar:
Cymhwysedd / Proses Atgyfeirio
Pwy sy’n gymwys?
Unrhyw un sydd yn:
- Byw yng Nghymru ond nid yn gweithio ar hyn o bryd
- Rhwng 16 a 24 mlwydd oed
- Yn 25+
- Wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor (LTU) 12+
- Economaidd anweithgar
- Nid ydynt yn ymgysylltu gyda gwasanaeth cyflogaeth arall a ariennir gan yr ESF
Eithriadau
- Y rhai sy’n ddi-waith am lai na 12 mis
- Unrhyw un sydd eisoes yn gweithio
- Unrhyw un sydd yn cymryd rhan mewn prosiectau ESF eraill