Ein Mentrau Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru

Yn swatio yng nghanol Sir Conwy, mae ein caffis menter cymdeithasol wedi’u lleoli yn nhrefi arfordirol Bae Colwyn a Llandudno, ac yng Ngorsaf Drenau Cyffordd Llandudno. Gan ddarparu gwasanaeth gwych a lluniaeth o safon uchel, mae’r busnesau hefyd yn cynnig profiad gwaith a chyfleoedd hyfforddiant i’r rhai sy’n chwilio am gyfleoedd yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch. Mae ein adeilad rhestredig gradd II ‘Llys yr Orsaf’ ym Mae Colwyn yn darparu cyfleusterau hyfforddi a llogi ystafelloedd o’r radd flaenaf, ochr-yn-ochr â busnes arlwyo allanol. Gan weithredu ar sail nid-er-elw, caiff unrhyw arian gwarged a gynhyrchir yn ein busnesau ei ail-fuddsoddi, er mwyn darparu cefnogaeth hanfodol i’r rhai mewn angen yn ein cymunedau.

Porter’s

Porter's Bae Colwyn

Mae Caffi Porter’s wedi’i leoli yng Nghanolfan Hamdden brysur Bae Colwyn, ym Mharc Eirias, ac yn gweini byrbryd iach a danteithion braf. Os ydych chi’n ymweld âr Parc, neu’n mynychu sesiwn yn y gampfa, galwch i mewn am goffi! 

Gwelwch ein Bwydlen Yma
Porter’s

Porter's Gorsaf Cyffordd Llandudno

Mae ein Caffi Porter’s, Llandudno wedi’i leoli yng Ngorsaf Drenau Cyffordd Llandudno. Mae’r siop yn berffaith ar gyfer cael coffi neu fyrbryd wrth deithio, gan werthu amrywiaeth o gacennau, diodydd a byrbrydau. 

Wedi’i leoli rhwng platfformau 1 a 3 yng Ngorsaf Drenau Cyffordd Llandudno, mae siop goffi Porter’s ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Dyma ein caffi diweddaraf, ar ôl agor ym mis Mawrth 2024, yn dilyn llwyddiant siop Bae Colwyn a Chaffi Milwr.  

 

Porter’s

Caffi Milwr, Llandudno

Mae Caffi Milwr Llandudno yn gaffi dan arweiniad y gymuned wedi’i leoli ar faes coetsis Llandudno, sy’n darparu cefnogaeth ychwanegol i Gyn-filwyr yn yr ardal. Mae Caffi Milwr yn cynnal sesiynau grŵp rheolaidd ar gyfer Cyn-filwyr, yn ogystal ag arddangos llu o gofroddion milwrol a lluniau. Mae’r caffi hefyd lle gallwch ddod o hyd i’r cerflun o Ffiwsilwr Shenkin, Masgot Catrodol y 3ydd Bataliwn Y Cymry Brenhinol a symudodd i’r safle ym mis Mawrth 2024.  

Porter’s

Llogi Ystafell yn Llys yr Orsaf

Wedi ei leoli yng nghanol Bae Colwyn, mae Llys yr Orsaf yn darparu llety modern ac eang ar gyfer cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd a digwyddiadau pwrpasol. 

Wedi’i adnewyddu’n helaeth, mae’r adeilad rhestredig Gradd II hwn yn cynnig tair ystafell gwych mewn amgylchedd hanesyddol a thrawiadol, ynghyd ag opsiynau arlwyo ar y safle.  

Mae gan bob ystafell cyfleusterau WiFi ac anwytho dolen glyw. Mae ein TG a’n cyflwyniad yn cynnwys monitorau teledu mawr gyda chysylltedd HDMI, taflunwyr, siartiau troi a byrddau gwyn. Mae gennym fynediad llawn i’r anabl, a lifft i bob llawr. Wedi’i leoli’n ganolog ar arfordir Gogledd Cymru, mae’n hawdd ei gyrraedd o’r A55 neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn agos at gyfleusterau parcio drwy’r dydd a dim ond 100 llath o Orsaf Reilffordd Bae Colwyn, mae cyrraedd Llys yr Orsaf yn hawdd i bawb.  

I weld rhestr o ystafelloedd sydd ar gael, gwelwch ein llyfryn isod, neu am fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01492 523821 

Llyfryn Llys yr Orsaf
Porter’s

Arlwyo Allanol Porter's

Cefnogwch ein cegin menter cymdeithasol a hyfforddi arobryn trwy archebu lluniaeth ar gyfer eich digwyddiad! 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o becynnau sy’n addas ar gyfer unrhyw ddigwyddiad neu gyllideb. Byddwn hefyd yn dyfynnu am bwffe pwrpasol ar gais a gallwn ddarparu cacennau cwpan sy’n cynnwys logo eich cwmni! Mae’r menter cymdeithasol hefyd ar safle ein adeilad yn Llys yr Orsaf sy’n cynnig ystafelloedd i’w llogi os oes angen. 

Mae gan Porter’s fan oergell, sy’n hwyluso dosbarthi bwffe lle bynnag yr ydych chi.

Am restr o’n costau,  gweler ein llyfryn Llys yr Orsaf isod! 

Cliciwch Yma
Porter’s

Llys yr Oraf a St Giles – Y Pantri

Lansiodd Mentrau Cymdeithasol CAIS, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth St Giles ac Adferiad, archfarchnad gymdeithasol newydd yn 2023. 

Gyda’r nod o helpu pobl sy’n cael trafferth gyda’r cynnydd mewn costau byw neu sydd â lefel llawer is o incwm gwario, mae Y Pantri yn archfarchnad cymdeithasol gyda gwahaniaeth.  

Caiff cyfranogwyr eu cyfeirio at y gwasanaeth ac yna ‘tanysgrifio’ am ffi isel iawn (£3.50 yr wythnos) sy’n caniatáu un ymweliad wedi’i drefnu yr wythnos i siopa am gynnyrch – fel cig, grawnfwydydd, ffrwythau a llysiau ffres, yn ogystal â derbyn cyngor arbenigol a chyfrinachol un-i-un ar unrhyw nifer o faterion a allai fod yn effeithio arnyn nhw neu eu teuluoedd. 

I gael gwybod mwy, cysylltwch â ni ar 01492 863000 

Porter’s

to be updated from Crew-it Poster

Porter’s

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi cysylltu â ni am unrhyw un o’n caffi’s, ffoniwch: 01492 863000