Mae Problem a Rennir yn Broblem Wedi'i Hanneru

Darparu dull cwnsela sy’n person-ganolog a ddi-oed

Gwasanaethau Cwnsela – Problem a Rennir

Sut ydyn ni yn wahanol?

Mae Problem a Rennir yn wasanaeth cwnsela sy’n cael ei redeg gan Fentrau Cymdeithasol CAIS sy’n cysylltu pobl sydd angen cymorth gyda’n tîm o gwnselwyr profiadol a chymwys. Yn wahanol i lawer o wasanaethau eraill, mae gennym staff sydd ag ystod eang o brofiadau a byddwn yn galw arnynt i gyd-fynd â’r cefnogaeth sydd ei angen arnoch.  

 

Os ydych chi yn wynebu straen, pryder, problemau perthynas, neu angen rhywun i siarad â nhw, rydym yn darparu lle diogel a chyfrinachol i archwilio eich pryderon. Trwy ein dewis ni, nid ydych chi yn derbyn cwnsela yn unig; rydych chi’n partneru â thîm sydd wir yn deall gwerth eich lles meddyliol ac sydd yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd. 

Cliciwch Yma i Gysylltu â Ni
Gwasanaethau Cwnsela – Problem a Rennir

Beth ydyn ni'n cynnig?

Mae Problem a Rennir yn cynnig ffordd amgen o gael gafael ar therapi gan roi ffordd gyflym a hawdd i chi cael mynediad i’r cefnogaeth sydd angen arnoch heb yr amseroedd aros hir. Mae ein holl therapïau yn cael eu darparu ar-lein, sy’n golygu y gallwch gael cefnogaeth o gysur a diogelwch eich cartref eich hun.  

Mae ein tîm staff yn gwnselwyr cymwysiedig BACP gyda chyfoeth o brofiad o gefnogi pobl, gan ddefnyddio ystod o dechnegau cwnsela.  

Os byddwn yn ymwybodol o unrhyw un o’n gwasanaethau presennol a allai eich cefnogi, byddwn yn eich tywys drwy’r atgyfeiriad hwnnw, gan arbed arian, amser a sicrhau eich bod yn derbyn y gofal o’r ansawdd gorau posibl.  

 

Gwasanaethau Cwnsela – Problem a Rennir

Beth allwn ni ei addo?

Trwy ein dewis ni i’ch cefnogi, bydd ein cynghorwyr yn:  

  • cynnig lle diogel, cyfrinachol, lle gallwch siarad amdanoch chi eich hun a’ch bywyd, gall hyn fod yn boenus neu’n ddryslyd a gall wneud i chi deimlo’n anghyfforddus, yn ddig neu’n anhapus 
  • cynnig cyfle i feddwl a siarad amdanoch chi eich hun a’ch pryderon mewn ffordd na allwch yn aml ei wneud gyda theulu a ffrindiau 
  • cynnig lle ac amser sydd i chi yn unig i siarad am y pethau hynny sy’n eich trafferthu 
  • gwrando ar sut rydych chi’n teimlo a sut mae hyn yn effeithio arnoch chi ac eraill 
  • derbyn sut yr ydych chi, heb eich barnu 
  • eich helpu i wneud y newidiadau yr hoffech chi weld 
  • gweithio’n galed i greu perthynas therapiwtig dda fel eich bod yn gallu gweithio’n dda gyda’ch gilydd 
  • deall nad yw wastad yn hawdd siarad am eich problemau a mynegi eich teimladau 
  • gweithio gyda chi i wella’ch lles 
  • rhannu gwybodaeth ac adnoddau gyda chi 
Gwasanaethau Cwnsela – Problem a Rennir

Sut allwch chi gysylltu?

Mae cysylltu â ni yn hawdd. Gallwch anfon e-bost i referrals@adferiad.org 

Ar ôl derbyn y cais, bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf.

Gwasanaethau Cwnsela – Problem a Rennir

Grantiau ar gyfer Gofalwyr yng Nghaerfili

Os ydych chi’n byw yng Nghaerfili ac yn gofalu am aelod o’ch teulu, partner, neu ffrind, gallech chi fod yn gymwys am grant i dalu cost chwe sesiwn cwnsela gyda Phroblem a Rennir!

Darganfod Mwy