
1968 – Ble dechreuodd popeth
Roedd Dr Dafydd Alun Jones yn feddyg ifanc yn ysbyty iechyd meddwl Dinbych pan sylwodd bod alcoholiaeth yn dod yn broblem fwy cyffredin a phrin oedd y gefnogaeth ar gyfer y cleifion hyn o fewn ein hysbytai a’r tu allan iddynt.
Ym 1968 sefydlodd Dr Jones uned bwrpasol i drin alcoholiaeth yn un o wardiau gwag yr ysbyty. Ond fe sylweddolodd nad oedd triniaeth ysbyty yn ei hun yn ddigon a bod cleifion angen cefnogaeth yn eu cartrefi a’u cymunedau wedi iddynt adael yr ysbyty. Dechreuodd ymgyrch i sefydlu Cyngor Alcohol Gogledd Cymru.