Ein Heffaith

Ein Heffaith

Rydym yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth, a’r ysgogiad hwn sy’n sail i bopeth a wnawn. Boed hynny drwy ymyriadau sylweddol, drwy gamau bach parhaus, drwy ymgyrchu dros y rhai hynny rydym yn eu cefnogi neu drwy ddarparu gwasanaethau newydd, arloesol, newid cadarnhaol yw ein nod. Gadewch i ni ddangos yr effaith rydym wedi ei gael i chi. 

Ein Heffaith

Mae Adferiad Recovery yn cyfuno sgiliau ac arbenigedd ei elusennau sefydlu i ddarparu gwasanaeth rhagorol a hyblyg ar gyfer pobl yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl, materion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, a’r rheiny ag anghenion cymhleth sy’n cyd-ddigwydd.

Rydym yn sefydliad a arweinir gan ddefnyddwyr a gofalwyr sy’n darparu ystod eang o wasanaethau unigol i’n buddiolwyr. Anelwn i wneud newidiadau positif ym mywydau pobl a effeithir gan gyffuriau, alcohol, problemau iechyd meddwl, a heriau eraill bywyd, drwy ystod o wasanaethau a chefnogaeth a ddaperir gan staff medrus a phrofiadol, yn y gred fod pobl yn gallu newid ac yn gwneud hynny. Mae Adferiad Recovery yn darparu ymateb newydd, hyblyg a chydgysylltiedig i’r amgylchiadau eithriadol a wynebir gan bobl â chyflyrau iechyd meddwl a defnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd a materion cysylltiedig.

Ein Heffaith

Mae pobl sy’n agored i niwed sy’n wynebu heriau bywyd cymhleth angen cymorth cyson a di-dor i sicrhau eu bod yn parhau i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a lles hanfodol – ac i’w hatal rhag cael eu difreinio a’u hynysu. Mae Adferiad Recovery yn gwneud defnydd o dalentau a phofiad elusennau Cymreig blaenllaw a hirsefydlog megis CAIS, Hafal, WCADA ac Adferiad Recovery CIO. Mae ein harbenigedd cyfunol ym meysydd camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl, tai, cyfiawnder troseddol a chymorth cyflogaeth yn galluogi Adferiad Recovery i ddiwallu anghenion y rhai hynny sy’n fwyaf agored i niwed gydag un dull gweithredu unedig a chynhwysfawr.

Archwiliwch ein heffaith