Mae adroddiadau diweddar yn tynnu sylw at y cynnydd sylweddol mewn rhagnodi canabis meddyginiaethol ers ei wneud yn gyfreithlon yn 2018. Cynyddodd yn araf i ddechrau, gan gyrraedd tua 10,000 y mis erbyn canol 2022, gyda’r ffigyrau’n codi o 282,920 yn 2023 i 659,293 yn 2024. Yn ôl y wybodaeth a dderbyniwyd o ganlyniad i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth, gellir priodoli llawer o hyn i bresgripsiynau a gyhoeddwyd gan glinigau canabis preifat. Awgrymai’r ffigyrau diweddaraf bod dim ond deg meddyg preifat wedi cyhoeddi mwy na hanner y presgripsiynau seiliedig ar ganabis yn y Deyrnas Unedig.
Hefyd, dengys tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg gynnydd brawychus mewn rhagnodi cynhyrchion meddyginiaethol sy’n seiliedig ar ganabis (‘CMBPs’) gan glinigau preifat ar gyfer triniaeth iechyd meddwl a salwch meddwl difrifol. Mae tystiolaeth gyfyngedig bod ‘CBMPs’ yn effeithiol ar gyfer trin anhwylderau meddyliol, ac rydym yn cymeradwyo’n llwyr y galw i gynnal mwy o ymchwil ac ymchwil mwy cymhellol.
Tra rydym yn cydnabod y buddion posibl dros ddefnyddio ‘CBMPs’ ar gyfer trin ystod o boen corfforol cronig ble nad oes unrhyw beth arall wedi gweithio, nid yw Adferiad yn cefnogi’r defnydd o ganabis ar gyfer iechyd meddwl gwael neu salwch meddwl difrifol, ac mae angen mwy o waith ymchwil ar fyrder ar ‘CBMPs’ ym mhob lleoliad iechyd. Rydym yn cefnogi yn llwyr safbwynt Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar ‘CMBPs’, sydd yn galw am fwy o waith ymchwil o ansawdd uchel, arweiniad cliriach ar ragnodi, ac ymrwymiad i addysg gyhoeddus ar niweidiau posibl y defnydd o ganabis.
Y defnydd o Ganabis yn y glasoed a’r risg o seicosis
Mae yna gorff o dystiolaeth hirhoedlog a chynyddol o gysylltiad rhwng cynnydd yn y risg o seicosis a’r defnydd o ganabis, yn enwedig pan mae’n cynnwys y defnydd o ganabis sydd â chyfran uchel o THC (a phan ddefnyddir ef gan bob ifanc).
Ym mis Chwefror, cyhoeddwyd un o’r astudiaethau hydredol mwyaf i astudio’r defnydd o ganabis yn ystod y glasoed a’i gysylltiad â datblygiad anhwylderau seiciatrig mewn oedolion ifanc.
Trwy ddefnyddio data iechyd gan dros 460,000 o unigolion, darganfu’r awduron bod y defnydd o ganabis yn y glasoed yn gysylltiedig â chynnydd yn y risg o nifer o anhwylderau seiciatrig erbyn oedolaeth gynnar, yn enwedig ar gyfer anhwylderau seicotig a deubegwn.
Mae Adferiad yn ymrwymedig i sicrhau bod cefnogaeth effeithiol a thosturiol ar gael i unigolion sy’n byw gyda salwch meddwl difrifol, yn cynnwys sgitsoffrenia ac anhwylder deubegwn, ac yn cefnogi yn llwyr awgrymiad yr awduron y gallai’r canlyniadau hyn hysbysu datblygiad ymyrraethau clinigol ac addysgiadol ar gyfer rhieni, pobl ifanc yn y glasoed, a chlinigwyr.
Deddfwriaeth a Defnydd Hamdden
Daw’r defnydd o ganabis â’r posibilrwydd o risgiau iechyd difrifol a tra mae tystiolaeth glinigol gyfyngedig ar y canlyniadau iechyd cyffredinol, mae tystiolaeth yn bodoli sy’n ei gysylltu gyda risg gynyddol o ddatblygu seicosis.
Nid yw Adferiad yn cefnogi gwneud canabis yn gyfreithlon. Hefyd, tra rydym yn credu’n gryf y dylid edrych ar ei ddefnydd ar gyfer hamdden a’r niweidiau sy’n gysylltiedig fel mater iechyd cyhoeddus ac nid fel un cyfiawnder troseddol, dylid cefnogi dad-droseddoli gyda buddsoddiad digonol i mewn i wasanaethau ataliaeth a thriniaeth.
Fel sefydliad sy’n ymroddedig i ddarparu cefnogaeth ystyrlon i bobl ar draws Cymru sy’n delio gyda phroblemau caethiwed a defnydd sylweddau, rydym yn eirioli dros wasanaethau wedi eu hariannu’n gywir, lleihau niwed, a chymorth i bobl i stopio defnyddio.