Rydym wedi bod yn cadw llygaid ar y gyfraith frys yn pasio drwy’r Senedd yr wythnos hon, ac yn falch bod ein barnau ni wedi cael eu hystyried fel rhan o’r broses o sicrhau bod gweithwyr proffesiynol meddygol cofrestredig yn parhau i eistedd ar banel y Tribiwnlysoedd Adolygu Iechyd Meddwl yng Nghymru.
Mae sicrhau mynediad amserol i dribiwnlysoedd i bobl sy’n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn hanfodol, ac mae wedi bod yn galonogol i weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn sydyn i fynd i’r afael â’r mater. Ond, mae sicrhau bod y safonau a’r diogelwch perthnasol yn eu lle i amddiffyn hawliau pobl yr un mor bwysig, a dyma pam mae’r diwygiad y cytunwyd arno i sicrhau hyfforddiant parhaus yn ychwanegiad hanfodol.
Fel sefydliad sy’n eirioli dros hawliau pobl sy’n byw gyda salwch meddwl, a llawer ohonynt a effeithir gan y gyfraith hon, rydym yn deall pwysigrwydd mynediad briodol i gyfiawnder. Dyma pam rydym yn gweithio gyda Mind Cymru a The Law Society i asesu effaith y prosiect peilot diweddar ble mae’r holl Dribiwnlysoedd Cymreig wedi cael eu rhestru fel cynhadledd fideo (ar-lein) yn unig, oni bai bod cais am wrandawiad personol.
Os ydych chi wedi bod drwy dribiwnlys iechyd meddwl yn ystod yr 8 mis diwethaf, gallwch ein helpu i ddylanwadu ar ddarpariaeth tribiwnlysoedd iechyd meddwl yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym eisiau casglu ei profiad byw chi – dywedwch wrthym beth weithiodd (neu beth oedd ddim yn gweithio!) i chi, ac os oes unrhyw beth yr hoffech ei weld yn cael ei wella.
Cliciwch yma i rannu eich barn