Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi beth sy’n cael ei alw’n Fil Digartrefedd sy’n torri tir newydd, sy’n anelu i drawsnewid gwasanaethau a diwygio cyfraith tai. Mae’r bil newydd sydd wedi ei osod o flaen y Senedd, yn rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd.
Bydd y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn:
· Ymestyn y cyfnod ble gall pobl gael cymorth i atal digartrefedd o 56 diwrnod i 6 mis
· Cryfhau’r camau mae awdurdodau lleol yn eu cymryd i gyflwyno’r hawl i adolygiad o’r penderfyniadau a wnaethpwyd
· Cyflwyno Cynlluniau Atal, Cefnogaeth a Llety a dyletswydd newydd i ddarparu cymorth i gadw llety
· Dileu’r profion angen blaenoriaethol a bwriadoldeb sydd, yn bresennol, yn atal pobl rhag cael yr help sydd ei angen arnynt
· Gwella ac eglurhau cefnogaeth a mynediad i dai ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal
· Cyflwyno dyletswydd cyfreithiol newydd ar ystod o wasanaethau cyhoeddus i ‘ofyn a gweithredu’ os yw rhywun yn profi neu mewn risg o ddigartrefedd
· Gwella mynediad i dai cymdeithasol a chyflwyno gofyniad am gofrestrau tai cyffredin a chofrestrau tai hygyrch
· Gofyniad i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i ymgynghori â phobl sydd wedi profi, neu wedi bod mewn risg o, ddigartrefedd
Canmolodd Adferiad y symudiad fel “cam i’r cyfeiriad cywir” ond yn annog y Llywodraeth i sicrhau darpariaeth cefnogaeth ar gyfer prosiectau tai camu i lawr ac ar gyfer pobl ble mai dim ond un rhan o’r materion cymhleth y maent yn eu hwynebu yw digartrefedd.
Mae’r elusen iechyd meddwl a defnydd sylweddau yn cynnig cefnogaeth hanfodol i unigolion sydd â bywydau wedi eu heffeithio gan broblemau’n ymwneud â salwch meddwl a chaethiwed. Fel rhan o’n gwaith i gefnogi pobl sydd ag anghenion sy’n cyd-ddigwydd, mae Adferiad yn cynnig nifer o gynlluniau tai â chefnogaeth ar draws Cymru ar gyfer unigolion sydd mewn risg o brofi digartrefedd neu heriau eraill yn ymwneud â thai i gael mynediad i ac i gynnal llety diogel.
Yn ei sylwadau ar y Bil newydd, dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau Adferiad (Gogledd Cymru), Naomii Oakley:
“Mae unigolion sydd wedi dod yn ddigartref (neu mewn risg o fod yn ddigartref) yn aml yn wynebu ystod o amgylchiadau heriol, sef pam mae Adferiad yn credu mewn cynnig ymagwedd ‘person cyfan’ wedi ei bersonoleiddio, sy’n annog datblygiad sgiliau bywyd ac annibyniaeth. Rydym, felly, yn falch i weld ymagwedd sy’n ffocysu ar gefnogaeth, gyda chynlluniau i gael gwared o rwystrau i gael mynediad i wasanaethau perthnasol a adlewyrchir yn y bil newydd hwn.”
Bydd yr asesiadau yn cryfhau’r camau a gymerir gan awdurdodau lleol, gan gyflwyno Cynlluniau Atal, Cefnogaeth a Llety (‘PSAP’). Mae’r bil yn rhoi mwy o gyfleoedd i’r rhai hynny sydd mewn risg o ddigartrefedd trwy ehangu’r opsiynau llety ynghyd â gosod mwy o gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i “ofyn a gweithredu” mewn perthynas â phobl yng Nghymru. Bydd pobl ifanc sy’n gadael gofal hefyd yn gallu cymryd camau i sicrhau llety diogel addas.
Mae’r bil wedi cymryd ymagwedd i sicrhau ymgysylltiad profiad byw sydd gyfystyr ag ymagwedd Adferiad i adferiad. Bydd y daith ddeddfwriaethol iddo ddod yn ddeddf gyfreithiol yn dechrau yn yr wythnosau sydd i ddod a’r gobaith yw y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol cyn etholiad y Senedd ym Mai 2026. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig a memorandwm esboniaethol i gyd-fynd â’r Bil.