Newyddion     14/03/2025

Adferiad yn Cyhoeddi Ymgyrch Gwrth Stigma Cenedlaethol

Adferiad yn Cyhoeddi Ymgyrch Gwrth Stigma Cenedlaethol

Mae Adferiad yn falch i gyhoeddi datblygiad prosiect mawr newydd sy’n anelu i fynd i’r afael â stigma’n gysylltiedig â chaethiwed ar draws y wlad.

Yn dilyn o’n hymgyrch hynod lwyddiannus yn haf 2022, mae Adferiad wedi llwyddo i sicrhau cyllid o Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol i ddatblygu prosiect cenedlaethol cynhwysfawr tair blynedd o dan y teitl ‘Only Human’, sy’n anelu i fynd i’r afael â stigma defnydd alcohol a sylweddau, fydd yn canolbwyntio ar gefnogi cyflogwyr a’r cyhoedd i ddeall materion o’r fath yn well. Nod y prosiect yw i godi ymwybyddiaeth yng nghanlyniadau niweidiol stigma’n gysylltiedig â chaethiwed, ac i annog pobl i gwestiynu eu credoau ynghylch caethiwed a’r bobl sy’n ei brofi.

Mae’r gwaith hwn yn cynnwys darparu hyfforddiant mewn sgiliau sylfaenol, megis siarad a chyflwyno’n gyhoeddus, i rymuso unigolion sydd â phrofiad byw o faterion defnydd sylweddau er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed a’u codi, ac ymgyrch sy’n codi ymwybyddiaeth sy’n herio stigma trwy’r un lleisiau hynny trwy ddarparu gweithdai, sgyrsiau a hyfforddiant. Byddwn yn ymgysylltu gyda gweithleoedd a lleoliadau cymunedol i ddeall y mater o stigma caethiwed yn yr amgylcheddau yma yn well. Yn olaf, byddwn yn cynnal ymgyrch marchnata cymdeithasol i ddatblygu ac i ddosbarthu adnoddau hygyrch ar ddefnydd alcohol a sylweddau, a’r stigma sy’n gysylltiedig ag ef. Bydd hyn yn cynnwys deunyddiau ar-lein, fideos, ffeithluniau, a pamffledi, yn ogystal â sicrhau sylw yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol. Bydd yr ymgyrch yn mynd yn fyw ar 1af Ebrill.

Dywedodd Donna Chaves, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus yn Adferiad:

Rwyf yn falch iawn i weld lansiad yr ymgyrch hynod bwysig hwn. Gall caethiwed effeithio ar unrhyw un, ac rydym i gyd yn ymwybodol o’r effaith ddwys mae’n ei gael ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae’r ymgyrch Only Human yn gam hanfodol i gael gwared o stigma – yn enwedig mewn cymunedau lleol a gweithleoedd, ble mae ofni beirniadaeth yn atal pobl yn rhy aml rhag siarad a chael mynediad i’r gefnogaeth hanfodol sydd ei hangen arnynt. Trwy annog sgyrsiau agored, bydd y fenter yma yn helpu i sicrhau y bydd mwy o bobl yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu.”

Dywedodd Michael Harvey, Pennaeth Prosiectau Cenedlaethol yn Adferiad:

Trwy adeiladu ar ein hymgyrch o 2022, anelai’r prosiect Only Human i barhau i fynd i’r afael â stigma ac i efelychu llwyddiant Amser i Newid, aeth i’r afael â’r stigma’n gysylltiedig â iechyd meddwl. Dymunaf ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol am gefnogi prosiect mor bwysig ac rwy’n hyderus y gallwn wneud gwahaniaeth enfawr dros y tair blynedd nesaf.”